Gwahoddiad

Does gen i ddim llawer o ragfarnau mewn gwleidyddiaeth ond rwy'n fodlon rhannu un ohonyn nhw. Mae gen i ragfarn yn erbyn y rheiny sy'n credu bod ganddyn nhw ryw allu arbennig i broffwydo canlyniadau - bod rhyw deimlad yn eu perfeddion neu sibrwd stepen drws yn drech na'r hyn y mae'r data yn dangos.

Mae'r data yn yr etholiad hwn wedi bod yn ddigon eglur a digyfnewid. Os nad oes 'na rhyw wendid sylfaenol ym methodoleg pob un o'r cwmnïau polio neu rhyw ogwydd funud olaf gallwn fod yn saff mai senedd grog sy'n ein disgwyl - a honno'n un lle nad yw hi'n gwbwl eglur pa fath o lywodraeth sydd yn cael ei ffurfio.

Dyw hynny ddim yn golygu y bydd y noson fawr yn ddigyffro. Yn wir, gyda'r cyfan efallai'n dibynnu ar lond dwrn o bleidleisiau mewn llond dwrn o seddi, y gwrthwyneb sy'n wir.

Beth sydd gennym ar eich cyfer felly? Wel, marathon o raglen yn dechrau am ddeg y nos ac yn para tan saith y bore. Fel arfer, Dewi Llwyd a minnau fydd wrth y ddesg fawr a byddai etholiad ddim yn etholiad heb gwmni Richard Wyn Jones. Iolo ap Dafydd a Cemlyn Davies fydd yn llywio'n cyfraniadau o'r Alban ac fe fydd James Williams yn cadw llygad ar bethau yn San Steffan.

Er mwyn cadw trefn ar y gwleidyddion yn y stiwdio danfonwyd tîm o herwgipwyr i mewn stiwdios ITV i fachu Catrin Haf Jones am y noson ac fe fydd Hanna Hopwood yn cymysgu â'r sylwebwyr a'r newyddiadurwyr yn ei hystafell sbin.

Arwyn Jones fydd yn gofalu am y graffigion crand yna ac wrth reswm fe fydd ein camerâu a'n gohebwyr y mhob un o'r canolfannau cyfri.

Yn ogystal â'r brif raglen fydd yn cael ei darlledu ar Radio Cymru yn ogystal ag S4C y tro hwn fe fydd 'na lwyth o ddanteithion ar eich cyfer yma ar Cymru Fyw ac fe fydd Dylan a chriw Post Cyntaf yn cadw pethau i fynd ar y di-wifr ac ol i Dewi a Minnau rhoi'n twls ar y bar.

Rwy'n edrych ymlaen! Ymunwch â ni!