Charles
- Cyhoeddwyd
- comments
Dydw i erioed wedi bod yn ddyn chwisgi. Mae jinsen fach neu hyd yn oed brandi'n llifo lawr yn ddigon handi ond am ddŵr y bywyd - wel, mae'n well gen i beidio.
Fe geisiodd Charles Kennedy fy argyhoeddi'n wahanol, a hynny yn Llangollen o bobman. Roedd y Rhyddfrydwyr yn cynnal eu cynhadledd yn y dre ac roedd Charles wedi canfod mae bar gwin Gales, lle'r oeddem ni'r newyddiadurwyr yn aros, oedd yr unig le i ddod o hyd i ddiod yn oriau man y bore.
Rwy'n cymryd mai esgus dros barhau'r cymdeithasu a'r yfed oedd y sesiwn blasu chwisgi - ond talais i gythraul o bris gan fethu cyffwrdd â'r stwff am flynyddoedd wedyn.
Fe fydd gan lawer straeon felly ac atgofion melys am Charles Kennedy gwleidydd wnaeth gyflawni llawer ond bysai wedi gallu cyflawni cymaint mwy.
Beth bynnag oedd ei ffaeleddau ar fwy nac un achlysur fe brofodd yn feirniad llawer mwy craff na'r rhan fwyaf o'i gyd wleidyddion - yn broffwyd yn ei wlad ei hun efallai.
Anodd heddiw yw dod o hyd i wleidydd mewn unrhyw blaid a fyddai'n anghytuno a safiad Charles yn erbyn rhyfel ac Irac a phwy all anghofio mai yntau oedd yr unig Ddemocrat Rhyddfrydol o bwys i ddarogan gwae pan ffurfiwyd y glymblaid â'r Ceidwadwyr?
Mae 'na un penderfyniad arall o bwys sydd werth ei nodi a phenderfyniad negyddol oedd hwnnw.
Rhai blynyddoedd cyn refferendwm yr Alban dywedodd cyfaill i mi sy'n deall y dalltings yng nghylch gwleidyddiaeth y wlad honno ei fod yn argyhoeddedig mai Kennedy oedd yr unig wleidydd a fyddai'n gallu sicrhau pleidlais o blaid annibyniaeth.
Efallai bod 'na elfen o wirionedd yn hynny o gofio bod y Na ar ei chryfaf yn etholaethau neu, yn hytrach, cyn etholaethau'r Democratiaid Rhyddfrydol.
Gan ufuddhau i benderfyniad ei blaid, dewis ymgyrchu yn erbyn annibyniaeth wnaeth Charles.
A fyddai'n ymfalchïo mai Na fawr oedd ei fuddugoliaeth olaf? Mae'n anodd credu hynny rhywsut am wleidydd oedd mor bositif ynghylch popeth.