Gwaelod y Dosbarth
- Cyhoeddwyd
- comments
Un o ddigwyddiadau mwyaf rhyfedd y calendr gwleidyddol yw Glee Club y Democratiaid Rhyddfrydol - rhyw fath ar noson lawen anffurfiol sydd wedi cael ei chynnal yng nghynhadleddau'r blaid ers oes pys. Os hoffech chi wrando ar Lembit Opik yn chwarae'r organ geg gyda Mike German yn cyfeilio ar y piano, y Glee Club yw'r lle i fynd. Peidiwch gyd a rhuthro'r un pryd.
Uchafbwynt y noson hyd heddiw yw canu anthem answyddogol y blaid "The Land" - can o ddyddiau Lloyd George sy'n croniclo'r frwydr rhwng tenantiaid a'u landlordiaid. Dyna oedd y rhaniad cymdeithasol sylfaenol ym Mhrydain am y rhan fwyaf o'r mileniwm diwethaf - y gwahaniaeth rhwng y lleiafrif oedd yn berchen ar dir a thai a'r rheiny oedd byw ar ofyn eraill.
Mae system ddosbarth yn seiliedig ar natur cyflogaeth yn rhywbeth cymharol fodern ac fe adlewyrchwyd y newid yn ein cyfundrefn wleidyddol wrthi i blaid y tenantiaid, y Rhyddfrydwyr, ildio arweinyddiaeth y chwith i blaid y gweithwyr - Llafur.
Wrth i Lafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol lyfu eu clwyfau yn sgil etholiad pur drychinebus i'r ddwy blaid mae 'na gwestiwn diddorol sydd angen ei ofyn sef hwn. I ba raddau y mae'r rhaniadau dosbarth oedd yn greiddiol i wleidyddiaeth yr ugeinfed ganrif yn berthnasol i wleidyddiaeth yr unfed ganrif ar hugain?
Rhai dyddiau ar ôl yr etholiad fe ddes i'n agos at dorri'r rhyngrwyd trwy drydar map oedd yn dangos bod seddi'r blaid Lafur y tu fas i Lundain bellach bron i gyd yn y cyn meysydd glo neu'n gyfagos iddyn nhw. Mae'r map hwnnw bellach wedi ei ail-drydar degau o filoedd o weithiau a hynny am dda reswm.
Mae'n awgrymu mai dim ond yn yr ardaloedd ôl-ddiwydiannol y mae gwleidyddiaeth dosbarth gwaith traddodiadol i'w ganfod ac nad yw rhaniadau galwedigaethol mor bwysig â hynny y tu hwnt i'r meysydd glo.
Yr hyn sydd yn cyfri y tu hwnt i'r meysydd glo yw'r hen, hen raniad yna rhwng perchnogion a thenantiaid.
Ugain mlynedd yn ôl roedd bron y cyfan o'm ffrindiau a'n nghydweithwyr yn bobl oedd yn berchen ar eu cartrefi neu'n fwy manwl yn bobl oedd â thŷ ar forgais. Doeddwn i'n nabod bron neb oedd yn rhentu tŷ neu fflat neu'n berchen ar fwy nac un annedd. Heddiw rwy'n nabod sawl un sy'n perthyn i'r naill ddosbarth neu'r llall ac mae ystadegau swyddogol yn dangos bod y canran o'r boblogaeth sy'n berchen eu cartrefi yn hanesyddol o isel.
Sonier yn aml am anghyfartaledd fel her wleidyddol fwya'r oes. Dydw i ddim yn anghytuno â'r dadansoddiad yna ond gan amlaf mae'r anghyfartaledd a gyfeirir ato'n anghyfartaledd incwm. Mae 'na fath arall o anghyfartaledd sef anghyfartaledd eiddo - anghyfartaledd sy'n cynyddu a gwaethygu wrth i'r cenedlaethau fynd heibio gyda rhai'n etifeddu eiddo ac eraill ddim.
Y frwydr yn erbyn y fath yna o anghyfartaledd wnaeth ysbrydoli cyfansoddwr "The Land" ac mae'n bosib mae'r ysbryd yna sydd angen ar bleidiau'r chwith os ydynt am adfer eu sefyllfa.