Darganfod troed deinosor ar draeth yn ne Cymru
- Cyhoeddwyd

Fe gafodd gweddill y deinosor ei ddarganfod ar y traeth y llynedd
Mae troed ffosiledig deinosor wedi ei ddarganfod ar draeth yn ne Cymru.
Fe gafodd ysgerbwd y deinosor, theropod bychan, ei ddadorchuddio yn dilyn storm ar draeth Larnog ym Mro Morgannwg yn 2014.
Ond ar ddechrau'r mis cafodd ei droed, oedd wedi bod ar goll, ei ddarganfod ar y traeth gan fyfyriwr paleontoleg, Sam Davies o Ben-y-bont ar Ogwr.
Mae gweddill sgerbwd y deinosor wedi bod yn cael ei arddangos yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd ers mis Mehefin wedi iddo gael ei ddarganfod gan ddau frawd, Nick a Rob Hanigan.

Mae Sam Davies paleontoleg ym Mhrifysgol Portsmouth
Fe wnaeth Mr Davies, sy'n astudio ym Mhrifysgol Portsmouth, ymweld â'r traeth ger Penarth wedi i'w diwtor ddatgelu bod ffosilau wedi'u darganfod yno.
Fe gyrhaeddodd oriau'n unig wedi i dirlithriad ddadorchuddio'r ffosil.
"Lwc pur oedd i mi ei ddarganfod," meddai.
Mae'r droed wedi ei roi i Amgueddfa Cymru, sy'n gobeithio ei arddangos gyda gweddill y sgerbwd yn fuan.