Y Crwt ar y Traeth
- Cyhoeddwyd
- comments
Ydy'r enw Phan Thi Kim Phúc yn golygu unrhyw beth i chi?
Go brin ei fod e ond does ond angen i mi yngan dau air i chi allu gweld ei llun hi yn eich meddyliau. Fietnam a napalm yw'r geiriau hynny.
Phan Thi Kim Phúc, neu Kim fel mae'n galw ei hun, oedd y ferch fach noeth, ei chroen yn llosgi a'i wyneb yn bictiwr o boen ac arswyd, wnaeth serio cydwybod y byd yn ôl yn y 1970au.
Mae'n debyg i'r llun hwnnw wneud mwy i newid y farn gyhoeddus yn yr Unol Daleithiau ynghylch rhyfel Fietnam nac unrhyw beth arall. O fewn tair blynedd roedd rhyfel oedd wedi para ar ryw ffurf neu'i gilydd ers 1945 wedi dirwyn i ben.
Nid y llun oedd yn gyfrifol am hynny ond roedd e'n rhan o'r peth.
Erbyn hyn mae Kim Phúc yn byw yng Nghanada ac yn ben ar sefydliad sy'n cynnig cymorth meddygol a seicolegol i blant sy'n dioddef o effeithiau rhyfel. Dyma oedd ganddi i ddweud am y llun a'i effaith arni.
"I've decided I want to control that picture. I want to use that picture to work for peace. Deep inside my heart, I don't want to see another little girl running like that with hopelessness, with terror."
Dyw Aylan Kurdi ddim am gael y cyfle i greu ystyr o'i lun yntau - llun sydd eisoes yn cael effaith digon tebyg i effaith hwnnw gafodd ei dynnu yn Fietnam ddeugain mlynedd yn ôl.
Yn dair oed mae ffawd Aylan wedi ei selio. Y crwt ar y traeth yw Aylan am byth. Dyw hynny ddim am newid.
Yn eironig ddigon anelu am Ganada, cartref Kim Phúc oedd y teulu ond doedd dim lloches i fod yn yr achos yma.
Mater i ni felly yw rhoi rhyw fath ystyr i'r peth. Ydy llun yn gallu procio cydwybod cyfandir?
Fe gawn weld.