Y Crwt yn y Penwisg
- Cyhoeddwyd
- comments
Soniais i wythnos ddiwethaf am rym lluniau. Cyfeirio yr oeddwn i at y lluniau erchyll o Aylan Kurdi a'i heffaith ar y farn gyhoeddus ynghylch ffoaduriaid.
Heddiw mae'r papurau yn llawn o lun arall - llun sydd, i fi o leiaf, yr un mor drawiadol.
Llun o Reyaad Khan, y dyn ifanc o Gaerdydd gafodd ei ladd gan ddrôn Prydeinig yn Syria yw hwnnw. Mae'r llun sydd wedi ei gymryd o fideo propaganda yn dangos Khan yn gwisgo penwisg Arabaidd gyda gwn ar ei ysgwydd. Mae'n debyg eich bod yn gyfarwydd â'r ddelwedd.
Y rheswm y mae'n drawiadol i mi bod Khan yn grwt mor gyfarwydd ei olwg - yn ddim gwahanol i ddegau o fechgyn sy'n pasio fy nhŷ bob bore ar eu ffordd i'r ysgol. Mae'n ddigon posib, yn debygol hyd yn oed, bod Khan yn un ohonyn nhw ar un adeg.
Mae fy rhan i o Gaerdydd yn un o'r ardaloedd hynny lle mae pobl yn tueddu ymhyfrydu yn y ffaith ein bod yn byw yn gymysg oll i gyd. Roedd hi'n sioc felly pam ymddangosodd y fideo o Khan a'i gyfaill, Nasser Muthana yn Syria haf diwethaf.
Nid fy lle i yw esbonio sut y cafodd pen bachgen a oedd, yn ôl ei gyfoedion, yn ddisgybl cydwybodol a chymedrol ei droi gan radicaliaid. Mae pobl lawer mwy gwybodus na fi yn pendroni ynghylch hynny.
Yr hyn sydd yn peri pryder i fi ac eraill yw'r effaith y gallai'r ffaith bod Khan wedi ei ladd gan ein lluoedd ni gael ar eraill yn ein cymuned. Mae 'na beryg amlwg y bydd gan Khan yn cael ei ystyried yn ferthyr gan rai gan ychwanegu at y broblem o radicaleiddio yn ein hysgolion.
Yn ôl Saleem Kidwai, ysgrifennydd cyffredinol Cyngor Mwslimaidd Cymru, ddoe oedd y tro cyntaf i unrhyw un o deulu Khan neu'r gymuned fwy eang gael gwybod am amgylchiadau ei farwolaeth. Mae Dr Kidwai wedi galw ar y Llywodraeth i ryddhau rhagor o wybodaeth ynghylch yr hyn ddigwyddodd a thystiolaeth ynghylch yr hyn yr oedd Khan yn ei gynllunio. Mae'r alwad yn un resymol.
Rhaid yw cofio mai dyletswydd gyntaf unrhyw lywodraeth yw amddiffyn ei dinasyddion ei hun ond roedd Khan yn ddinesydd Prydeinig hefyd.
Gallwn fod yn sicr, rwy'n meddwl, nad penderfyniad hawdd oedd hwnnw i'w ladd.