Duw a gadwo

Roeddwn i jyst yn rhy hen yn 1969 i dderbyn mwg i ddathlu arwisgo Charles yn Dywysog Cymru. Plant yr ysgolion bach gafodd y rheiny. Mae'n bosib bod rhai yn eu trysori hyd heddiw.

Erbyn Jiwbili Arian y Frenhines yn 1977 roeddwn i'n byw yng Ngwynedd ac roedd y lle yn fôr o goch, glas a gwyn gyda'r ardaloedd tlotaf yn fwyaf lliwgar eu teyrngarwch.

Heddiw mae'r Frenhines yn cyrraedd carreg filltir arall wrth i hyd ei theyrnasiad dorri record y Frenhines Victoria. Does 'na ddim mygiau na baneri y tro hwn nac unrhyw ddigwyddiad swyddogol yng Nghymru i nodi'r achlysur.

Mae'n debyg nad oedd y Frenhines ei hun yn dymuno gwneud mor a mynydd o'r achlysur yma ond mae hi hefyd yn amlwg nad yw teulu brenhinol yn ysgogi dathliadau ar lawr gwlad fel y buon nhw.

Roedd y gwahaniaeth rhwng dathliadau 1977 a'r rheiny yn 2002 a 2012 yn drawiadol. Roedd gan bron bob un stryd ei pharti yn 1977. Digwyddiadau canolog swyddogol oedd dathliadau'r ganrif hon er bod y cyhoedd yn fodlon troi allan yn eu degau o filoedd ar eu cyfer.

Mae'n anodd gwybod p'un ai newid cymdeithasol yntau newid agwedd tuag at y Frenhiniaeth sy'n gyfrifol am y ffaith nad ydym bellach yn rhuthro mas i brynu platiau papur a balŵns bob tro mae rhyw achlysur brenhinol yn cael ei ddathlu. Cymysgedd o'r ddau, efallai.

Yr eironi yw bod y lleihad yn yr hysteria oedd arfer bodoli ynghylch dathliadau brenhinol wedi digwydd yn ystod cyfnod pan mae pwysigrwydd y Goron fel symbol o Brydeindod wedi cynyddu.

Yn wir, ac eithrio'r Goron, y lluoedd arfog a'r BBC mae'n anodd meddwl am sefydliadau sydd yn ei hanfod yn Brydeinig yn hytrach na'n Seisnig, yn Albanaidd, yn Gymreig, yn Gymru a Lloegeraidd neu beth bynnag.

Dyna pam rwy'n amheus ynghylch y rheiny sy'n dadlau y byddai diddymu'r Frenhiniaeth yn arwain yn anorfod at greu gweriniaeth Brydeinig.

Mae'r geiriau 'teyrnas' ac 'unedig' yn perthyn gyda'i gilydd rhywsut. Heb yr un a fyddai'r llall yn goroesi? Onid y goron yw'r unig sefydliad bellach sy'n gludo'n cenhedloedd at ei gilydd?

Mae'n gwestiwn sy'n werth ei ystyried.