A'i phlygion tanllyd uwch ein pen
- Cyhoeddwyd
- comments
Un o bleserau cudd yr Eisteddfod Genedlaethol yw cystadlaethau'r hen ganiadau lle mae caneuon sy'n gwneud i Jac a Wil swnio'n fodern yn cael eu hatgyfodi a'u perfformio i gynulleidfa ddiolchgar.
Mae'r rheiny sydd yn y Pafiliwn wrth eu boddau. Rwy'n amau y byddai'r rhan fwyaf o ddeiliaid y maes yn rhyfeddu bod y fath gystadlaethau'n bodoli. Hywel a Blodwen? Rili? Go iawn?
Rwy'n amau bod ambell aelod o'r Blaid Lafur wrthi ar hyn o bryd yn ail ddysgu geiriau'r Faner Goch wrth i'r hen ganiadau swyno eu cyd-aelodau.
Yn wahanol i rai dydw i ddim wedi fy synnu'n llwyr gan lwyddiant ymddangosiadol Jeremy Corbyn yn y ras i arwain y blaid. Roedd 'na rywbeth bur arwynebol ynghylch y broses o foderneiddio yr aeth Llafur drwyddi ar ddiwedd y ganrif ddiwethaf.
Cymerwch enghraifft. Rwy'n cofio bod mewn cynhadledd Lafur yn Blackpool lle ymddangosodd y rhosyn coch fel symbol i'r blaid am y tro cyntaf a lle ganodd soprano "Jerusalem" ar ddiwedd y gynhadledd mewn ymdrech i dewi'r anthem draddodiadol.
Digon teg - ond fe fyddai'r peth wedi bod yn fwy credadwy pe na bawn wedi gweld Neil Kinnock yn morio canu 'Avanti Popolo' a 'Joe Hill' yn y noson Gymreig ddeuddydd yn gynt.
Nawr dydw i ddim yn honni am eiliad mae tacteg marchnata yn unig oedd "Llafur Newydd".
Roedd Tony Blair a'i gefnogwyr mwyaf selog wedi eu swyno gan y 'drydedd ffordd' gan lwyr cofleidio'r ddiwinyddiaeth newydd ond doedd trwch aelodau'r blaid ddim hanner mor frwdfrydig.
Iddyn nhw, pris gwerth ei dalu er mwyn sicrhau grym oedd Llafur Newydd - aberth er mwyn gallu cyflwyno polisïau fel yr isafswm cyflog cenedlaethol, rhyddid gwybodaeth a'r gweddill.
Rwy'n amau y byddai nifer ohonyn nhw yn fodlon taro'r un fargen eto ond am ryw reswm mae'n ymddangos bod llawer o aelodau'r blaid o'r farn bod etholiad 2020 eisoes wedi ei golli. Ymddengys mai 'os am golli gwaeth i ni golli'n anrhydeddus' yw'r agwedd.
Boed felly. Efallai bod teimlo felly yn ddealladwy ar ôl colli'r etholiad diwethaf yn annisgwyl ac efallai y bydd gan yr hen ganiadau apêl y tu hwnt i'r Pafiliwn. Efallai.
Fe gawn weld.