Bydd Canu Bendigedig

Dyma gwestiwn i chi. Ydych chi'n canu 'Duw a Gadwo'r Frenhines'? Mae 'na sawl reswm dros beidio.

Mae achlysuron lle mae'n cael ei defnyddio fel anthem Seisnig mewn gemau Rygbi a phêl droed yn esiampl amlwg. A fyddai unrhyw un yn honni bod trwch y cefnogwyr yn Stadiwm y Mileniwm neu Stadiwm Dinas Caerdydd yn amharchu'r frenhines trwy beidio canu God Save The Queen pan fod Cymru'n chwarae Lloegr? Go brin.

Ar achlysuron eraill, lle mae'r gân yn cael ei defnyddio fel anthem Brydeinig, mae'r geiriau'n gallu peri gofid i weriniaethwyr ac anffyddwyr fel ei gilydd. Mae eraill, fi yn eu plith, wedi eu magu i gredu nad yw'n gymwys i gymysgu gweddi a gwladgarwch. Mae gweddïo ar Dduw i sicrhau bod y Frenhines yn 'victorious' yn mynd â ni i dir John Williams, Brynsiencyn rhywsut.

Rwy'n crafu fy mhen ychydig felly wrth geisio deall yr holl ffwdan ynghylch penderfyniad Jeremy Corbyn i beidio canu'r anthem mewn gwasanaeth i goffhau'r 'Battle of Britain' ddoe.

Pe bai'r arweinydd Llafur newydd wedi gwrthod sefyll ar ei draed fe fydda'r ymosodiadau yn ddealladwy ond mae'n anodd osgoi'r teimlad y byddai'r union rai sy'n ymosod arno heddiw am beidio canu wedi ei gyhuddo o ragrith pe bai e wedi agor ei geg.

"Labour Hypocrite" oedd pennawd tudalen flaen y Sun ddoe wrth adrodd bod Jeremy Corbyn wedi derbyn gwahoddiad i ymuno a'r Cyfrin Gyngor. 'Corb Snubs the Queen' yw'r pennawd heddiw.

O leiaf mae Mr Corbyn yn gyson. Go brin y gellir dweud hynny am rai o'i feirniaid.