Y mae yma alar calon

Mae'n hawdd credu weithiau bod rhywun wedi melltithio cynadleddau'r Democratiaid Rhyddfrydol gan sicrhau bod rhyw stori fawr arall yn torri bob tro wrth i'r blaid felen drafod ei thrafodion. Mae'r rhestr o straeon mawr wnaeth dorri yn ystod cynadleddau'r blaid yn un faith. Yn eu plith mae 'Black Wednesday' a chwymp Lehman Brothers a Northern Rock.

Pla neu beidio, go brin y bydda'i hyd yn oed y Lib Dem mwyaf pesimistaidd wedi rhagweld y byddent yn cael eu diorseddu o'r penawdau gan fochyn, a hwnnw o bosib yn fochyn sy'n ffrwyth dychymyg rhyw un â meddwl, wel, mochaidd.

O mor drwm yr ydym ni.

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol mewn rhyw sefyllfa ryfedd ar hyn o bryd. Mewn rhai llefydd, Tŷ'r Cyffredin yn fwyaf arbennig, mae'r blaid eisoes yn cael ei thrin fel plaid ymylol yn gydradd â'r DUP gyda ychydig bach yn fwy o glowt na Phlaid Cymru a'r SDLP ond dim llawer.

Yn Nhŷ'r Arglwyddi ar y llaw arall ac yn Holyrood a Bae Caerdydd mae'r blaid o hyd yn cael ei hystyried yn brif blaid gyda'r holl freintiau a sylw sy'n gysylltiedig â hynny.

Dyna pam mae etholiad Cynulliad flwyddyn nesaf mor bwysig i'r blaid nid yn unig yng Nghymru ond ar lefel Brydeinig. Oherwydd hynny mae'n debyg y gall y blaid Gymreig ddisgwyl cymorth gan aelodau y tu hwnt i Glawdd Offa pan ddaw hi at bethau fel canfasio ffon a chodi arian.

Ar yr olwg gyntaf dyw'r dasg sy'n wynebu'r blaid ddim mor heriol â hynny. Fe fyddai sicrhau canlyniad tebyg i un 2011 yn ddigon da. Roedd y cwymp mawr yn y gefnogaeth i'r blaid eisoes wedi amlygu ei hun yn yr arolygon barn bryd hynny. Siawns fod hi'n bosib cyflawni'r gamp unwaith yn rhagor mewn amgylchiadau digon tebyg?

Ond yr amgylchiadau yw'r broblem. Bum mlynedd yn ôl enillodd y blaid bedair sedd rhestr o drwch blewyn a chyda Ukip hefyd yn targedu Cymru mae'r trothwy i ennill seddi rhanbarthol yn sicr o fod yn uwch flwyddyn nesaf nac oedd e yn 2011. Ar hyn o bryd mae'r arolygon yn awgrymu y bydd Ukip yn diorseddu'r Democratiaid Rhyddfrydol fel pedwaredd blaid y Cynulliad yn 2016.

Gallai achubiaeth ddod i'r blaid pe bai'r Ceidwadwyr a Phlaid Cymru yn cipio seddi etholaethol o Lafur gan ildio seddi rhestr i eraill ond mae hynny allan o ddwylo ei haelodau.

Yn ôl a ni at y mochyn felly...