Pobl y Grand

Fe wnes i roi'r gorau i fynychu cynhadleddau Prydeinig y pleidiau rhai blynyddoedd yn ôl. Ar y cyfan does gen i fawr o hiraeth ar eu hôl. Eto i gyd, byswn i'n dwlu bod yn bry ar wal yng ngwesty'r Grand yn Brighton yr wythnos hon i glywed yr hyn sy'n cael eu dweud gan y mawrion Llafur y tu hwnt i glyw'r meicroffonau a thrwch y cynadleddwyr.

Am resymau diogelwch y Grand yw'r gwesty lle mae'r rhan fwyaf o bobol bwysig y pleidiau'n aros yn aros ys ystod cynhadleddau ac yn achos Llafur dyw e ddim yn gyfrinach bod y mwyafrif llethol o'r rheiny yn unfarn na fydd Jeremy Corbyn yn Brif Weinidog ar ôl yr etholiad nesaf.

Yr unig gwestiwn yn eu meddyliau nhw yw sut mae rhwystro Mr Corbyn rhag arwain Llafur i mewn i'r etholiad hwnnw.

Ond ydy pobl y Grand yn gywir? Wedi'r cyfan, rhain oedd yr union bobl oedd yn darogan nad oedd gobaith gan Mr Corbyn ennill yr arweinyddiaeth Llafur.

Fel mae'n digwydd rwy'n gallu dychmygu sawl senario a fyddai'n agor drws rhif deg i Mr Corbyn.

Ail argyfwng ariannol yw'r un mwyaf amlwg. Gyda George Osborne wedi methu yn ei fwriad i ddileu'r diffyg prin fyddai'r arfau economaidd ei feddiant pe bai 'na dirwasgiad arall. Yn y fath amgylchiadau, fel yng ngwlad Groeg a Sbaen, gallai neges wrth lymder brofi'n atyniadol i'r etholwyr.

Posibilrwydd arall yw hollt o fewn y blaid Geidwadol - rhywbeth a allai ddigwydd yn sgil pleidlais dros aros yn yr Undeb Ewropeaidd os ydy'r sgeptigiaid yn teimlo bod David Cameron wedi eu twyllo.

Trydydd posibilrwydd yw cyfres o sgandalau - tebyg i'r rheiny wnaeth gymaint o niwed i lywodraethau Alec Douglas-Home a John Major.

Y broblem i Lafur yw bod pob un o'r senarios hyn yn dibynnu ar ffactorau y tu hwnt i reolaeth y blaid. Mae hi ei hun bron yn ddi-rym - ond nid mor ddi-rym â mawrion y Grand o safbwynt cyfeiriad eu plaid!