Mae hiraeth arnaf am y wlad
- Cyhoeddwyd
- comments
Ar y cyfan dydw i ddim yn un o'r rheiny sy'n cwyno am allu a safon y gwleidyddion sy'n ein cynrychioli ym Mae Caerdydd. Mae 'na ddigon o ddyffars yn San Steffan ond haws yw cuddio ymhlith chwe chant a hanner o aelodau na chelu'ch hun mewn siambr o drigain.
Ar ôl dweud hynny mae'n amlwg wrth edrych ar yr ymgeiswyr sydd wedi eu dewis ar gyfer etholiad 2016 y bydd 'na fwy o swmp i'r Cynulliad nesaf nac i'r un presennol.
O fewn y blaid Lafur yn fwyaf arbennig mae'n ymddangos bod y posibilrwydd o lywodraethu ym Mae Caerdydd yn fwy atyniadol nac eistedd ar feinciau'r wrthblaid yn San Steffan. Yn sicr, o gael eu hethol, fe fyddai pobl fel Jeremy Miles a'r Farwnes Eluned Morgan yn gaffaeliad i'r grŵp Llafur.
Rwyf am roi fe mhen ar y bloc fan hwn trwy ddweud fy mod yn ei chael hi'n hawdd iawn dychmygu Eluned neu Jeremy fel Prif Weinidog Cymru. Mae oes o brofiad gwleidyddol gan Eluned a phe bai Llafur yn chwilio am arweinydd arall o fowld Carwyn Jones, wel, Jeremy yw'r dyn.
Mae hynny'n gadael Carwyn mewn tipyn o gyfyng gyngor.
Mae'r Prif Weinidog yn osgoi ateb cwestiynau ynghylch ei ddyfodol gwleidyddol personol ond go brin fod unrhyw un yn disgwyl iddo arwain Llafur Cymru i mewn i etholiad 2021. O gymryd mai fe yw'r Prif Weinidog ar ôl etholiad mis Mai felly, gallwn ddisgwyl i Carwyn ildio'r awenau rhywbryd yn ystod ei dymor pum mlynedd.
Pe bai e'n dewis mynd yn gymharol gynnar yn ei dymor mae'n debyg mai un o'r garfan bresennol o aelodau cynulliad fyddai'n ei olynu. Byswn i'n mentro swllt mai Vaughan Gething, y dirprwy weinidog iechyd, fyddai'n camu i'r adwy er nad wyf yn llwyr ddiystyru gobeithion Ken Skates.
Pe bai Carwyn yn dewis aros tan drothwy etholiad 2021 ar y llaw arall fe fyddai pobl fel Eluned a Jeremy wedi cael y cyfle i gael eu traed dan y bwrdd ac oherwydd hynny yn ymgeiswyr credadwy.
Efallai fy mod yn camddarllen y dyn ond dydw i ddim yn credu bod Carwyn yn un sydd ag obsesiwn ynghylch pwy sy'n ei olynu. Ar y llaw arall mae'n wleidydd digon craff i wybod fod ei benderfyniadau yntau yn sicr o ddylanwadu ar yr ornest a'r canlyniad.