Abigail, Barney, Nathan a Nigel

  • Cyhoeddwyd
  • comments

Dydw i ddim yn ffan o'r busnes newydd yma o roi enwau ar stormydd. Efallai bod y Swyddfa Dywydd yn credu y bydd rhoi enw ar storm rhywsut yn dyfnhau ein dealltwriaeth o feteoroleg. Os felly, fe achubodd Morus y gwynt ac Ifan y glaw y blaen arnyn nhw genedlaethau yn ôl!

Ta beth, does dim rheswm i ni'r Cymry arddel enwau Saesneg fel Abigail a Barney a chan bod gen i, a phawb arall o ran hynny, jyst gymaint o hawl a'r Swyddfa Dywydd i enwi storm hoffwn gyhoeddi taw Bleddyn nid Barney yw'r cythraul sy'n chwipio'n tonnau a'n tinau heddiw!

Gan fy mod wedi penodi fy hun yn ddyn tywydd dyma ragolwg hir dymor. Fis Mai nesaf fe fydd storom yn taro Cymru naill ai o'r dwyrain neu'r gogledd orllewin. Mae'r cyfeiriad yn dibynnu ar yr enw ac rwy'n ei chael hi'n anodd penderfynu rhwng Nigel a Nathan wrth fedyddio'r dymestl arbennig hon.

Ydyn, mae Ukip ar gerdded a neb yn gwbl sicr pa fath o effaith y bydd y blaid yn cael flwyddyn nesaf. Dyma i chi ddwy senario bosib y naill yn gorwynt a'r llall yn gawod.

Y corwynt yn gyntaf. Mae'n bosib y bydd y cyfnod rhwng nawr ac etholiad y Cynulliad yn un lle mae'r penawdau yn parhau i gael eu dominyddu gan y llif o ffoaduriaid i mewn i Ewrop a bygythiadau ac ymosodiadau gan derfysgwyr.

Fe fyddai amgylchiadau o'r fath yn creu tir ffrwythlon iawn i blaid sy'n pwysleisio'r angen i'r Deyrnas Unedig ddiogelu ei ffiniau ac sy'n galw am flaenoriaethu'r boblogaeth gynhenid wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus.

Yn y fath sefyllfa, pe bai'r blaid yn gallu codi arian digonol i redeg ymgyrch effeithiol yng Nghymru, mae'n ddigon posib y gallasai hi ennill hyd at ddwy sedd rhestr ym mhob un o'r rhanbarthau etholiadol gan sicrhau presenoldeb sylweddol ym Mae Caerdydd.

Y senario arall yw bod Ukip eisoes wedi cyrraedd ei phen llanw a chyda refferendwm Ewrop ar y gorwel ei bod hi'n ymddangos braidd yn amherthnasol mewn etholiad Cymreig.

Gyda'r miliwnyddion yn gwagio'u waledi i dalu am ymgyrchoedd Leave.Eu a Vote Leave gallasai diffyg adnoddau a threfniadaeth lawr gwlad yng Nghymru gosti'n ddrud i'r blaid. Mae'n annhebyg, ond yn bosib, na fyddai Ukip yn llwyddo i gyrraedd y trothwy yn yr un o'r rhanbarthau o dan y fath amgylchiadau.

Rhywle rhwng dim a deg i Ukip yw fy narogan i felly.

Does dim rhaid i Owain Wyn Evans na Derek Brockway boeni'n ormodol ynghylch eu swyddi a minnau'n cynnig rhagolwg more anelwig! Ond fe ddywedaf hyn - nid Saunders Lewis yw'r gŵr sydd ar y gorwel y tro hwn.