Rhwng Dewi, fi a'r wal
- Cyhoeddwyd
- comments
Un o'r tasgiau anoddaf ar noson etholiad yw cadw wyneb syth yn y munudau cyn i'r rhaglen ganlyniadau fynd ar yr awyr. Rhyw chwarter awr cyn i'r gorsafoedd pleidleisio gau mae Dewi Llwyd a minnau yn derbyn canlyniadau'r 'exit poll' gyda rhybudd pendant i beidio rhoi unrhyw fath o awgrym o'r cynnwys cyn i'r cloc daro deg.
Yn fwyaf arbennig rhaid cadw'r ffigyrau rhag y gwleidyddion sydd yn y stiwdio er mwyn i chi wylwyr gael y pleser o weld eu hymateb yn fyw. Fel y gallwch ddychmygu roedd peidio codi ael ar ôl derbyn ffigyrau'r Etholiad Cyffredinol diwethaf yn dipyn o her. Roedd y ffigyrau mor wahanol i'r hyn yr oedd pawb yn ei ddisgwyl a'r hyn yr oedd yr arolygon yn ystod yr ymgyrch wedi ei ddarogan.
Heddiw cyhoeddir yr adroddiad hir-ddisgwyliedig ynghylch beth aeth o le gyda'r arolygon hynny. Dydw i ddim am fynd trwy'r casgliadau yn fan hyn ond yn y bôn doedd y cwmnïau ddim wedi holi digon o etholwyr hŷn nac etholwyr prysur sy'n anodd eu cyrraedd. Oherwydd hynny roedd y samplau yn gyson ffafrio Llafur ar draul y Ceidwadwyr.
Yr hyn sy'n fwyaf diddorol ynghylch yr adolygiad yw'r casgliad nad rhywbeth wnaeth ddatblygu yn ystod yr ymgyrch etholiad oedd y fethodoleg wallus. Roedd yr arolygon yn gyson anghywir gydol y senedd ddiwethaf. Ar ôl cywiro'r samplau gellir gweld mae dim ond am gyfnod o ryw ddeunaw mis yn ystod y senedd honno yr oedd Llafur ar y blaen i'r Ceidwadwyr sy'n codi cwestiynau difyr ynghylch beth fyddai wedi digwydd pe bai'r pleidiau a'r pleidleiswyr yn gwybod beth oedd eu gwir sefyllfa. Dyma ddau.
A fyddai Ed Miliband wedi arwain ei blaid i mewn i'r etholiad pe bai Llafur yn gwybod ei bod yn debygol o golli? A fyddai cymaint o bleidleiswyr Lloegr wedi cefnu ar y Democratiaid Rhyddfrydol a throi at y Torïaid pe bai nhw'n gwybod bod clymblaid rhwng Llafur a'r SNP yn annhebygol?
Pwy a ŵyr yw'r ateb i'r ddau gwestiwn yna a dyma chi un arall.
A fyddai Jeremy Corbyn wedi ennill yr arweinyddiaeth Llafur heb sioc a siom annisgwyl yr etholiad?
Na fyddai yw'r ateb, dybiaf i.