Da, was da a ffyddlon
- Cyhoeddwyd
- comments
Mae'n hawdd anghofio weithiau nad plaid newydd yw Ukip. Mae hi wedi hofran ar ymylon ein gwleidyddiaeth ers bron i chwarter canrif bellach gan fagu grym yn raddol yn enwedig mewn etholiadau Ewropeaidd.
Mae Ukip y ganrif hon yn greadur gwahanol iawn i'r hyn oedd y blaid yn ôl yn y 1990au. Bob hyn a hyn mae sylfaenydd Ukip, yr hanesydd Alan Sked, yn dewis ein hatgoffa ni o hynny gan fynnu mai sefydlu plaid ar y tir canol oedd ei fwriad nid plaid oedd yn byw ar ofnau ynghylch pynciau megis ymfudo a newid cymdeithasol.
Wyneb cyntaf Ukip yng Nghymru oedd gwr o'r enw David Rowlands, dyn busnes hawddgar a dymunol o gymoedd Gwent. Ef erbyn hyn yw un o'r ychydig ffigyrau o ddyddiau cynnar y blaid sy'n dal i ymwneud â hi.
Dros y blynyddoedd mae David wedi dal bob math o swyddi gwirfoddol gyda'r blaid ac wedi sefyll fel ymgeisydd mewn rhyw ddwsin o etholiadau. Da was da a ffyddlon, rhedaist y ras, cedwaist y ffydd.
Nawr mae'n ymddangos y gallasai David dderbyn ei wobr - nid yn y nefoedd ond ym Mrwsel a Strasbwrg a hynny oherwydd cymal bach digon di-nod yn y gorchymyn etholiadol ar gyfer etholiad y Cynulliad ym mis Mai.
Am y tro cyntaf mae'r gorchymyn yn gwahardd aelodau seneddau eraill rhag sefyll yn etholiadau Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Sgandalau 'double jobbing' y Gwyddelod sydd wedi gyrru'r newid ond mae'n effeithio ar bawb.
O'r herwydd os ydy Nathan Gill yn cael ei enwebu yn etholiad y Cynulliad fe fydd yn rhaid iddo ymddiswyddo o Senedd Ewrop. James Cole yr ail ymgeisydd ar restr Ukip yn etholiadau Ewrop ddylai etifeddu'r sedd ond mae hwnnw wedi gadael y blaid ac felly yn anghymwys. Mae Caroline Jones oedd yn y trydydd safle ar y rhestr hefyd yn ymgeisydd Cynulliad.
Mae hynny'n gadael un dyn bach ar ôl. Gesiwch pwy.