Dyffryn y Merthyron
- Cyhoeddwyd
- comments
Yn ôl yn 2003 roedd aelodau'r Cynulliad yn hoff iawn o frolio mai hi oedd y ddeddfwrfa gyntaf unrhyw le yn y byd i gynnwys nifer gydradd o ddynion a menywod. Fe ddigwyddodd hynny yn bennaf oherwydd rheolau pur ddadleuol ynghylch dewis ymgeisiwyr a gyflwynwyd gan Lafur ac i raddau llai Plaid Cymru.
Mae'r rheolau hynny wedi bodoli ers degawdau bellach ond maen nhw o hyd â'r gallu godi ambell i wrychyn.
Penderfyniad y blaid Lafur i gyfyngu rhestr fer etholaeth Merthyr a Rhymni i fenywod yn unig sydd wedi achosi'r ffrae ddiweddaraf gydag aelodau lleol yn gofyn y cwestiynau sy'n codi bob tro ar achlysuron fel hyn.
Ydy hon yn ffics wleidyddol? Pwy maen nhw'n ceisio cael mewn neu pwy sy'n cael ei gau mas?
Mae'r rheiny wedi bod yn gwestiynau digon teg ambell i waith yn y gorffennol ond nid y tro hwn, yn fy nhyb i.
Mae pethau wedi llithro yn y Bae ers 2003. Erbyn hyn pump ar hugain o fenywod sy'n aelodau cynulliad deg yn llai na'r nifer o ddynion a gallasai pethau fod yn llawer iawn gwaeth ar ôl etholiadau mis Mai.
Ystyriwch beth feddai'n digwydd pe bai Llafur yn cael noson wirioneddol hunllefus. Mae'n bosib dychmygu sefyllfa lle fyddai Wrecsam, Dyffryn Clwyd, Delyn, Gorllewin Casnewydd, Gogledd Caerdydd a Gwyr i gyd yn y fantol.
Mae'r rheiny i gyd yn seddi sy'n cael eu cynrychioli gan fenywod ar hyn o bryd a phe bai Llafur yn eu colli fe fyddai'r balans rhwng dynion a menywod o fewn y grŵp ac o bosib y Cynulliad yn cael ei drawsnewid er gwaeth.
Taw pia'i hi, merthyron Merthyr!