Elusen yn galw am Ddeddf Awtistiaeth i Gymru

  • Cyhoeddwyd
Child playing with bricksFfynhonnell y llun, SPL

Dywed Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru fod angen Deddf Awtistiaeth i Gymru er mwyn mynd i'r afael â'r "angen dybryd" i wella'r gwasanaethau i bobl sy'n byw gyda'r cyflwr.

Yn ôl yr elusen, mae ymgais y llywodraeth i ddiogelu hawliau pobl ag awtistiaeth wedi "colli momentwm" ers iddyn nhw gyhoeddi strategaeth wyth mlynedd yn ôl.

Ond mae Llywodraeth Cymru'n mynnu eu bod nhw wedi ymrwymo i gefnogi pobl ar y sbectrwm awtistig.

Mae Nath Trevett, 29, o Aberpennar, ymhlith y 34,000 yng Nghymru sy'n byw ag awtistiaeth neu syndrom Asperger.

Mae'r cyflwr yn effeithio ar y modd mae person yn cymdeithasu a chyfathrebu ag eraill.

'Angen diagnosis cywir a chynnar'

Mae Mr Trevett wedi bod yn ddi-waith am bron i flwyddyn.

Yn ogystal â diogelu hawliau pobl sydd â'r cyflwr i gael help wrth geisio am swyddi, mae Mr Trevett hefyd yn galw am sicrhau diagnosis cywir a chynnar.

Bu'n rhaid iddo aros tan ei fod e'n 16 oed.

Disgrifiad o’r llun,

Bu rhaid i Nath Trevett aros tan ei fdo yn 16 oed cyn cael diagnosis o'r cyflwr

Oherwydd diagnosis hwyr a chamddealltwriaeth o'i gyflwr, mae o'n dweud iddo gael ei roi mewn ysgol oedd yn anaddas.

'Cymru ar ei hôl hi'

Mewn arolwg diweddar gan y Gymdeithas Awtistiaeth, fe ddywedodd 63% o bobl fod y broses ar gyfer cael diagnosis yn rhy hir, gyda dros hanner (54%) yn dweud fod hynny wedi rhoi straen arnyn nhw.

Mae ffigyrau diweithdra yn uwch ymysg pobl sy'n byw ag awtistiaeth, gyda dim ond 10% yn gweithio'n llawn amser a 12% yn gweithio'n rhan amser.

Ac o ran addysg, dim ond un ymhob pump rhiant sy'n fodlon gyda'r addysg a'r cymorth sydd ar gael i'w plant.

Fe ddywedodd dros 44% fod gwasanaethau wedi gwaethygu yn y pum mlynedd diwetha'.

Mae gan Loegr a Gogledd Iwerddon ei deddfau Awtistiaeth eu hunain, ac mae Cymru ar ei hôl hi, yn ôl Cymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol Cymru.

Mewn datganiad, dywedodd Llywodraeth Cymru bod ganddyn nhw "ymrwymiad clir i gefnogi pobl ar y sbectrwm Awtistig" ac mai ei strategaeth awtistiaeth nhw yn 2008 oedd "y cyntaf o'i fath yn y Deyrnas Unedig".

Yn ôl y llywodraeth fe fydda nhw'n lansio Strategaeth Awtistiaeth "ar ei newydd wedd" ddiwedd yr wythnos, fydd yn "adeiladu ar y gefnogaeth" i blant, pobl ifanc ac oedolion "drwy gydol eu bywydau".