Y Diafol yn y Siôl
- Cyhoeddwyd
Mae rhai yn gweld y gwalch yn syth tra bod eraill yn syllu ar Salem Curnow Vosper am oriau ac yn methu'n lan a gweld y diafol wrth ysgwydd Siân Owen, Ty'n-y-fawnog.
Mae syllu ar fesurau cyfansoddiadol yn gallu esgor ar brofiad digon tebyg weithiau. Mae rhywun yn synhwyro rhywsut bod rhywbeth yn llechu yn y siôl ond yn cuddio'i hun yn y patrwm.
Cefais brofiad felly wrth ddarllen fersiwn Carwyn Jones o Fesur Cymru a gyhoeddwyd ddoe a medraf enwi'r cnaf sy'n cwato yn ei gymalau. Teyrnas Lloegr yw hwnnw.
Undeb rhwng pedair cenedl a phedair gwladwriaeth yw'r Deyrnas Unedig yn ei hanfod. Y broblem yw nad yw'r cenhedloedd a'r gwladwriaethau yn cyd-fynd a'i gilydd. Ni, yr Albanwyr, Gwyddelod y gogledd a'r Saeson yw'r cenhedloedd. Cymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon a'r Deyrnas Unedig ei hun yw'r gwladwriaethau. Nid bod Lloegr yn dwll ond mae 'na dwll lle ddylai Lloegr fod!
Mae'r anghyfartaledd yna yn achosi pob math o drybini yn enwedig ynghylch grymoedd a hawliau Lloegr fel gwlad. Ond nid Lloegr sy gen i dan sylw yn fan hyn ond Teyrnas Lloegr - y wladwriaeth sy'n llechu yn siôl, teyrnas sy'n cynnwys nid yn unig Lloegr, ond Cymru hefyd. Harri'r wythfed oedd creawdwr y deyrnas honno a dyma'r geiriau ar ei thystysgrif geni.
"That his said Country or Dominion of Wales shall be, stand and continue for ever from henceforth incorporated, united and annexed to and with this his Realm of England"
Awdurdodaeth gyfreithiol y deyrnas honno yw awdurdodaeth Cymru a Lloegr - yr awdurdodaeth sy'n asgwrn y gynnen rhwng Swyddfa Cymru a Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.
Mae drafft mesur Carwyn Jones yn ceisio delio a chwestiwn yr awdurdodaeth ond yn anwybyddu rhai o effeithiau eraill y deyrnas gudd.
Cymerwch enghraifft. Yn yr atodlen i'r mesur sy'n rhestri'r pwerau a gedwir yn ôl gan San Steffan ceir y cymal hwn.
"The union of the nations of Wales and England"
Ar yr olwg gyntaf mae'r cymal hwnnw yn ddigon tebyg i'r un sy'n bodoli parthed yr Alban.
"The Union of the Kingdoms of Scotland and England"
Y cymal hwnnw yn neddf 1998 oedd yn gorfodi Senedd yr Alban i ofyn caniatâd San Steffan cyn cynnal y refferendwm ar annibyniaeth ond mae 'na fyd o wahaniaeth rhwng yr undeb a gyfeirir ato rhwng yr Alban a Lloegr a'r un a grëwyd rhwng Cymru a Lloegr.
Undeb rhwng dwy wladwriaeth i greu un newydd oedd y cyntaf - proses o draflyncu oedd yr ail a thra bod teyrnas y Tuduriaid yn parhau i fyw fel rhyw fath o zombie yn y cefndir fe fydd hi'n parhau i achosi problemau i'r setliad cyfansoddiadol.
Ceir un ateb posib i'r broblem wrth droi'n llygaid i gyfeiriad Belfast. Dyma sydd gan Ddeddf Gogledd Iwerddon i ddweud am berthynas y dalaith a'r Deyrnas Unedig, y Deyrnas Unedig, sylwer, nid Lloegr.
It is hereby declared that Northern Ireland in its entirety remains part of the United Kingdom and shall not cease to be so without the consent of a majority of the people of Northern Ireland voting in a poll held for the purposes of this section in accordance with Schedule 1.
"Dream on" fel maen nhw'n dweud! Ond ar y lleiaf oni ddylid ystyried geiriad sy'n lladd y cysyniad cyfansoddiadol o 'Gymru a Lloegr' unwaith ac am byth trwy sôn efallai am yr 'undeb rhwng Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon' neu 'undod y Deyrnas Unedig?
Dim ond gofyn ydw i.
Dyma un cwestiwn bach arall.
Ydych chi'n gallu gweld wyneb yr ysbryd yn ffenest Salem?