Ffarwel i'r Ddinas Gas

  • Cyhoeddwyd

Oddeutu saith o'r gloch heno fe fydd symbol awdurdod y Cynulliad, y Byrllysg, yn cael ei gludo allan o siambr y Senedd ac fe fydd oes y pedwerydd Cynulliad ar ben.

Fe fydd bron i chwarter aelodau'r Cynulliad yn ffarwelio a'r lle am y tro olaf heno gan sicrhau trallwysiad o waed newydd ym mis Mai.

Mae deg aelod Llafur, union draean o'r grŵp, wedi dewis rhoi eu tŵls ar y bar. Ar y ffordd mas mae Huw Lewis, Gwenda Thomas, Edwina Hart, Rosemary Butler, Christine Chapman, Janice Gregory, Gwyn Price, Sandy Mewies, Jeff Cuthbert a Keith Davies. O'r rheiny mae'r chwech cyntaf wedi bod yma o'r cychwyn yn 1999. Mae tri aelod o Blaid Cymru sef Jocelyn Davies, Rhodri Glyn Thomas ac Alun Ffred Jones wedi dewis rhoi'r ffidl yn y to. Cafodd y ddau gyntaf eu hethol gyntaf yn 1999. Ymunodd Alun Ffred â nhw yn 2003.

Does neb yn gadael meinciau'r Ceidwadwyr na'r Democratiaid Rhyddfrydol o'i wirfodd er bod William Graham mewn twll a hanner ar ôl i'w blaid ei osod yn bumed ar y rhestr ranbarthol. O gymryd nad yw William yn bwriadu efelychu Alec Guinness yn 'Kind Hearts and Coronets' mae ei yrfa wleidyddol yntau yn tynnu at ei derfyn hefyd!

Ar y mwyaf felly un ar ddeg o ddosbarth '99 fydd yn eistedd yn y pumed Cynulliad ac mae hynny'n cynnwys un dychweledig sef Helen Mary Jones.

Ar y cyfan, mae'n debyg bod y lefel yna o drosiant yn beth iach - yn enwedig mewn deddfwrfa fechan fel y Cynulliad. Ar y llaw arall, mae'n sicr ambell i hen ben yn ychwanegu at gyfoeth y mics.

Hyd y gwn i does 'na ddim pwysau am gyfyngiadau gorfodol ar hirhoedledd gwasanaeth Aelodau Cynulliad - er bod y rheiny'n bethau digon cyffredin mewn gwledydd eraill yn enwedig yr Unol Daleithiau. Cofiwch, o ystyried eu dewisiadau posib i olynu'r Arlywydd Obama efallai bod ambell i Americanwr yn dechrau cwestiynu eu gwerth!