Haearn yn y tân

  • Cyhoeddwyd

Mae angen bod yn galon galed yn y jobyn yma weithiau ac er ein bod i gyd yn teimlo cydymdeimlad â gweithwyr Tata gallwch fentro nad fi yw'r unig un sy'n ceisio dyfalu beth fydd effaith argyfwng y diwydiant dur ar etholiad y Cynulliad.

Gallwch fod yn sicr bod strategwyr y pleidiau wedi bod yn gwneud hynny ac eisoes gwelwyd ffrwyth eu dyfalu. Neithiwr, er enghraifft, fe ddewisodd Llafur rhoi'r drop i'w darllediad gwleidyddol er mwyn darlledu datganiad i'r camera gan Carywn Jones. Y nod wleidyddol, mae'n debyg, oedd portreadu Carwyn fel gwladweinydd ac arweinydd cenedlaethol mewn cyfnod o argyfwng. Os felly, mae'n biti ei fod wedi ei ffilmio mewn swyddfa oedd yn debycach i orsaf waith mewn canolfan galwadau na swyddfa arweinydd.

Fe fydd gen i fwy i ddweud am Lafur yn y man ond y peth cyntaf i nodi yw y gallasai trafferthion Tata fod yn newyddion gwael iawn i Geidwadwyr Cymru - oni cheir rhyw fath o achubiaeth wyrthiol.

Mae holl naratif y cyfryngau Prydeinig wedi canolbwyntio ar fethiannau a chyfrifoldebau llywodraeth David Cameron a gallasai'r blaid gynulliadol dalu pris am hynny ar Fai'r pumed. Ar ben hynny mae'r holl sylw ar yr economi wedi tynnu'r gwynt o hwyliau ymgyrch y Ceidwadwyr - ymgyrch oedd i fod i ganolbwyntio ar gyflwr gwasanaethau cyhoeddus Cymru.

Mae'n debyg taw ar yr economi yr oedd Llafur yn gobeithio gweld yr ymgyrch yn canolbwyntio - ond economi Aston Martin a TVR oedd hwnnw i fod nid economi o dan gysgod ffwrneisi oer. Y peryg i'r blaid yw bod yr argyfwng dur yn gwneud i'r Prif Weinidog edrych naill ai'n ddi-rym neu'n ddi-glem. Ydy'r capten yn debyg o dderbyn clod am lansio'r cychod achub neu o gael ei feio am fod wrth y llyw pan darodd y llong y creigiau? Gallai llawer ddibynnu ar yr ateb i'r cwestiwn yna.

Mae'n bryd i fi roi fy mhen ar y bloc felly. Yn reddfol rwy'n teimlo y bydd helyntion Tata yn niweidio'r Ceidwadwyr yn fwy na Llafur. Fe fyddai hynny'n newyddion da i Lafur o safbwynt y frwydr yn yr etholaethau ond mae'n bosib taw'r gwir enillwyr yn fan hyn yw'r pleidiau nad ydynt mewn grym y naill ben i'r M4 na'r llall.

O, am arolwg barn!