Trysor y Môr-ladron

  • Cyhoeddwyd

Roedd Harri Morgan yn ddyn â thrwyn am drysor - gofynnwch i T. Llew Jones! Roedd yr hen gapten yn gwybod lle i guddio'i enillion hefyd. Fe ddaethpwyd o hyd i beth o'i drysor mor ddiweddar â 2012 a phrin fod angen i chi ofyn lle'r oedd y capten wedi celu ei aur. Panama yw'r ateb, wrth reswm!

Does dim angen y "Bristol Maid" i chi gelu'ch trysor ym Mhanama'r dyddiau hyn wrth gwrs ond mae'n ymddangos hefyd nad yw'r lle yn ddihangfa mor ddiogel ac y buodd hi yn nyddiau'r Spanish Main. Mae gwleidyddion a miliwnyddion ledled y byd wedi canfod hynny i'w cost dros y dyddiau diwethaf!

Dyw effaith sgandal papurau Panama ar ein gwleidyddiaeth ni ddim eto wedi cyrraedd yr un lefelau a Gwlad yr Iâ. Eto i gyd does ond angen edrych ar wyneb ambell i Dori i synhwyro pa mor anghysurus y mae'r blaid o weld argyfwng arall eto yn amharu ar eu cynlluniau etholiadol.

Pe na bai Llafur mewn twll o fath wahanol ar hyn o bryd rwy'n amau y byddai'n papurau newydd yn llawn o golofnau yn darogan tranc y Torïaid ac yn rhyfeddu at y ffordd y mae'r blaid fel pe bai'n cwympo'n ddarnau. Hynny llai na blwyddyn ar ôl iddi ennill buddugoliaeth felys ac annisgwyl yn yr etholiad cyffredinol.

Fe drodd y chwarae ynghylch Ewrop yn chwerw'n ddigon sydyn yn San Steffan ac ar lawr gwlad mae'r aelodaeth yn fwyfwy ranedig. Cafwyd cawl o gyllideb, ymddiswyddiad Ian Duncan Smith, cyhuddiadau o fod yn ddi-hid ynghylch y diwydiant dur a nawr, i goroni'r cyfan, mae cyfoeth a braint arweinwyr y blaid unwaith eto o dan y chwyddwydr.

Y cwestiwn mawr yw faint o hyn fyddai wedi digwydd pe bai Llafur yn wrthblaid effeithiol. Ydy diffyg disgyblaeth y Ceidwadwyr yn deillio o'u sicrwydd bod etholiad 2020 eisoes yn y bag? Does dim modd gwybod mewn gwirionedd ond mae'n anodd iawn meddwl am gyfnod lle'r oedd y ddwy brif blaid mewn sefyllfaoedd mor wael ar yr un pryd.

Y cwestiwn nesaf yw oes 'na fycanîr all gymryd mantais o'r sefyllfa?