Cyhoeddi dau o enillwyr medalau Eisteddfod Sir Fynwy
- Cyhoeddwyd
Mae Eisteddfod Genedlaethol Cymru wedi cyhoeddi enwau enillwyr rhai o'r prif dlysau fydd yn cael eu cyflwyno yn y brifwyl yn Sir Fynwy ym mis Awst.
Mair Carrington Roberts o Lanfairpwll, Ynys Môn, yw enillydd Medal Goffa Syr T.H. Parry-Williams 2016.
Enillydd Medal Wyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod yw Guto Roberts.
Byd y Pethe
Cyflwynir medal T.H. Parry-Williams yn flynyddol i unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad gwirioneddol yn eu hardal leol, gyda phwyslais arbennig ar weithio gyda phobl ifanc.
Mae Mair Carrington Roberts yn adnabyddus i genedlaethau o eisteddfodwyr am ei gwaith ym myd y pethe.
Er yn byw ym Môn erbyn hyn, bu Mair yn byw a gweithio yn y gogledd ddwyrain am flynyddoedd, lle bu'n hyfforddi, dysgu a pharatoi cannoedd o blant a phobl ifanc ar gyfer cystadlaethau a pherfformiadau, gan gynnwys yr Eisteddfod Genedlaethol.
Dywedodd Ms Carrington Roberts fod cael y fedal yn anrhydedd mawr: "Rwy'n gwerthfawrogi'n fawr y fraint a'r anrhydedd arbennig yma, a hynny am gyfraniad a roddodd gymaint o foddhad a phleser i mi drwy'r blynyddoedd, yn hyrwyddo cerdd dant a cherddoriaeth.
"Mae'r holl brofiadau wedi cyfoethogi fy mywyd yn fawr, ac rwy'n ddiolchgar am bob cyfle a gefais i hyfforddi a gosod ac i gloriannu a beirniadu, yn enwedig gyda phobl ifanc.
"Diolch i'r rhai fu mor gefnogol. Roedd derbyn y newydd am y fedal yn annisgwyl iawn, ond mae'n brofiad rŵan i'w fwynhau a'i werthfawrogi."
Dywedodd Eisteddfod Genedlaethol Cymru fod gwasanaeth a chyfraniad Mair yn enfawr: "Bu'n beirniadu eisteddfodau'r Urdd, yn y cylch, y sir ac yn genedlaethol ers dros hanner canrif.
"Mae hefyd yn credu'n gryf yng nghyfraniad yr eisteddfodau lleol fel meithrinfa ar gyfer yr eisteddfodau cenedlaethol, ac mae'i gwasanaeth, boed yn feirniad neu'n hyfforddwr, yn broffesiynol ac yn adeiladol bob amser."
Cyfraniad oes i Wyddoniaeth
Mae'r Fedal Wyddoniaeth a Thechnoleg Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a'r Cyffiniau yn cael ei chyflwyno i Guto Roberts am ei gyfraniad hyd-oes i wyddoniaeth drwy gyfrwng y Gymraeg.
Yn wreiddiol o Ben Llŷn, mae bellach yn byw yn Llantrisant yn Rhondda Cynon Taf, ac mae wedi ymwneud â Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn yr Eisteddfod Genedlaethol ers 1971, pan drefnwyd y babell gyntaf ar y Maes.
Dywedodd llefarydd ar ran yr Eisteddfod: "Sicrhaodd Guto fod Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn cael lle cymwys ar y Maes ac yn nhestunau'r Eisteddfod, a bu'n gwasanaethu ar bwyllgor canolog Gwyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod am ugain mlynedd yn ogystal.
Roedd Guto hefyd yn gyfrifol am roi'r rhaglen weithgareddau a darlithoedd at ei gilydd ar gyfer wythnos yr Eisteddfod, a bu'n allweddol i'r gwaith o sicrhau bod ymwelwyr i'r Eisteddfod yn cael gwybod am berthnasedd datblygiadau gwyddonol byd-eang i ni yma yng Nghymru, a hynny drwy gyfrwng y Gymraeg.
Bydd Mair Carrington Roberts a Guto Roberts yn derbyn y medalau yn ystod wythnos yr Eisteddfod ar Ddolydd y Castell, Y Fenni ym Mis Awst.