Troi a throsi
- Cyhoeddwyd
Mae cyfieithu yn her beth bynnag, ond sut beth yw cyfieithu llenyddiaeth? Mae nifer o lyfrau plant wedi eu trosi i'r Gymraeg ac mi fydd nifer ohonyn nhw yn cael sylw yng Ngŵyl Llên Plant Caerdydd , dolen allanolsy'n cael ei chynnal rhwng 16-24 Ebrill.
Mae Owain Sion, athro o Gaerdydd, wedi bod yn cyfieithu llyfrau i blant ers blynyddoedd, ac yn gyfrifol am lyfrau Peppa Pinc a chyfres 'Dyddiadur Dripsyn' ('Diary of a Wimpy Kid'). Bu'n siarad â Cymru Fyw am yr heriau sy'n ei wynebu:
Addasu
Nid cyfieithu ydy o mewn gwirionedd, ond 'addasu'. Yn enwedig efo cyfres fel 'Diary of a Wimpy Kid' - gan ei fod o wedi ei leoli yn America, mae'n rhaid i ti drio addasu'r byd Americanaidd yn fyd Cymraeg a Chymreig, e.e. 'Independence Day', 'Thanksgiving', a'r ffaith fod Greg, y prif gymeriad yn 'Middle School', ond ei frawd yn 'High School'.
Mae rhain yn broblemau mae'n rhaid i ti geisio dod drostyn nhw, a phan ti'n llwyddo, ti'n falch iawn dy fod wedi gallu gwneud.
Er mwyn addasu 'chydig o bethau i fod yn fwy Cymreig, mae'n rhaid gofyn am sêl bendith gan y wasg yn America. Maen nhw'n llym iawn efo cadw'r stori yr un fath, ac wrth gwrs, mae'r lluniau yn y llyfr yn barod, felly mae'n rhaid i'r addasiad gydfynd efo nhw.
Achos mod i'n berson eitha' creadigol, dwi'n ei fwynhau yn arw. Dwi ddim wedi sgwennu unrhyw beth gwreiddiol ers blynyddoedd, oherwydd y peth diwetha' dwi isho'i wneud ar ôl dod adra o'r gwaith ydy eistedd o flaen cyfrifiadur, a thrio bod yn greadigol.
Ond efo'r gwaith yma, mae gen ti sylfaen i weithio arno yn y lle cyntaf. Dim bo' ti ddim yn gorfod meddwl a gweithio, wrth gwrs, ond mae'r ffaith dy fod gen ti sylfaen yn help wrth i ti addasu, yn hytrach na gwneud popeth o dy ben a dy bastwn dy hun.
Gweithio dros y penwythnos
Mae'n cymryd tua deg diwrnod cyfan i orffen drafft cyntaf o lyfr 'Dyddiadur Dripsyn', ac rydw i'n gwneud y gwaith yma ar benwythnosau a gwyliau ysgol. Mae'n amserlen i'n dechrau ddiwedd y gwyliau Nadolig, yna rhyw un diwrnod bob penwythnos wedi hynny.
A phan mae pawb arall yn y dafarn yn gwylio gemau'r Chwe Gwlad, dwi adra yn addasu 'Dyddiadur Dripsyn', gan orffen y drafft cyntaf cyn gwyliau'r Pasg. Dwi newydd orffen drafft gyntaf y chweched llyfr yn y gyfres.
Wedyn mae'r amserlen yn go dynn - mae'n rhaid iddo gael ei gysodi yma, fel arfer gan y Cyngor Llyfrau, yn ôl aton ni i'w brawfddarllen, ei anfon i America i gael ei gymeradwyo, cyn ei anfon at y wasg fis Mai.
Mae 'na lot o fynd nôl ac ymlaen - ond dwi'n eitha hoffi hynny, oherwydd y mwya' o bobl sy'n ei wirio, y lleia' o gamgymeriadau fydd 'na, gobeithio. Weithiau ti'n rhy agos ar rhywbeth, a ddim yn gweld bod modd ystwytho brawddeg drwy ei ddweud o mewn ffordd arall, tan i ti gael golwg arall arno.
Geirfa Pen Llŷn
Y cyfarwyddyd gefais i yn wreiddiol, oedd ei fod o angen bod yn nhafodiaith Pen Llŷn. Dwi'n ei sgrifennu'n llafar iawn, ond hefyd yn trio cynnwys idiomau Cymraeg a Chymreig fel fod plant yn dysgu geiriau ac idiomau newydd, ac yn cyfoethogi eu geirfa wrth ddarllen.
Efallai fod y plant wedi darllen y nofel yn Saesneg ac yn gwybod y stori, ac felly os ydyn nhw'n codi'r llyfr yn Gymraeg, mae hi'n bwysig eu bod nhw'n cael rhywbeth gwahanol ohono fo.
Beth sy'n bwysicach na dim ydy fod y plant yn ei ddarllen ac yn ei fwynhau. Mae'n cael ei dargedu at fechgyn 9-13 oed - ac ar y cyfan, mae nifer o fechgyn yn anfodlon darllen - felly mae o angen bod yn llyfr maen nhw eisiau ei ddarllen. Ac efallai fod rhywbeth hwyliog fel hyn yn apelio at blant sy'n casáu darllen.
Mae 'na lot o ddadlau ynglŷn â gwerth cyfieithu llyfrau Saesneg i'r Gymraeg - 'pam na fydden ni'n ariannu pobl i ysgrifennu llyfrau Cymraeg gwreiddiol?'
Ond fy nadl i'n ôl ydy, os oes 'na blant yn dilyn y cyfresi llyfrau 'ma, ac yn hoffi'r cymeriadau, pam dim manteisio ar hynny, a'u cael nhw i ddarllen y llyfrau yn Gymraeg yn hytrach nag yn Saesneg? Mae 'na bendant le i'r farchnad cyfieithu yng Nghymru yn hynny o beth.