Taro'r Postyn
- Cyhoeddwyd
Pa flwyddyn oedd y flwyddyn fwyaf hunllefus yn hanes y blaid Lafur yng Nghymru? Mae 'na sawl 'annus horribilis' yn cystadlu am y teitl yna gyda phenllanw Thatcheriaeth yn 1983, colli'r Rhondda ac Islwyn yn 1999 a dod yn ail yn etholiadau Ewrop yn 2009 yn eu plith.
Mae 'na ddadleuon cryf o blaid pob un o'r dewisiadau yna ond 2008 yw fy newis i. Yn y flwyddyn honno cynhaliwyd etholiadau lleol yng Nghymru gyda'r argyfwng bancio yn gefndir iddynt.
Gordon Brown oedd wrth y llyw yn Downing Street ac yn y polau Prydeinig roedd y Ceidwadwyr rhyw bymtheg pwynt ar y blaen i Lafur - adwy digon arferol ar ganol tymor llywodraethol.
Roedd Llafur yn disgwyl canlyniadau gwael ond doedd neb wedi rhagweld y gyflafan oedd i ddod. Fe drodd y rhosyn Llafur yn aberthged i'w hymgeiswyr ac ar ddiwedd y dydd dim ond dau gyngor, Castell Nedd Porth Talbot a Rhondda Cynon Taf oedd yn cael eu rheoli gan y blaid.
Fe syrthiodd cadarnleoedd fel Torfaen, Merthyr a Sir Fflint i ddwylo gawlach o ymgeiswyr annibynnol a phleidiol ac ar ddiwedd y dydd roedd 'na fwy o Ddemocratiaid Rhyddfrydol na Llafurwyr yn arwain cynghorau yng Nghymru.
Mae sawl esboniad wedi ei gynnig am yr hyn ddigwyddodd ond yr un mwyaf tebygol yw bod cefnogwyr naturiol Llafur wedi aros gartref tra bod eu gwrthwynebwyr wedi dangos parodrwydd anarferol i gydweithio'n dactegol i ddiorseddi'r blaid.
Beth sydd a wnelo hyn oll ac etholiad 2016? Wel os ydych chi'n siarad ag ymgeiswyr a gweithwyr y blaid Lafur ar lawr gwlad maen nhw mewn hwyliau da. Mae ffactorau allanol wedi gweithio o'u plaid yn ystod yr ymgyrch ac mae'r etholwyr ar y cyfan yn ddigon croesawgar ar stepen y drws.
Dyma'r broblem. Yn ôl un ymgeisydd Llafur yr ateb a geir amlaf wrth chwennych pleidlais yw hwn. "Yeah, we'll vote for you, butt, if we get round it." Mae eraill wedi dweud wrthyf fod sawl etholwr wedi cymryd yn ganiataol taw galw ynghylch refferendwm Ewrop mae'r canfaswyr gyda nifer yn rhyfeddu o glywed bod 'na etholiad pwysig i'w gynnal cyn y bleidlais Ewropeaidd.
Arnom ni yn y cyfryngau y mae llawer o'r bai am hyn, mae'n debyg, ond mae 'na bryderon cynyddol yn y rhengoedd Llafur ynghylch cael eu pleidleiswyr mas ar Fai'r 5ed. Dyna mae'n debyg sy'n gyfrifol am ffenomen ryfedd sydd wedi fy nharo yn ystod yr ymgyrch hwn.
Yn draddodiadol mae gwleidyddion profiadol yn credu bod posteri ffenest a phosteri gardd o fwy o drafferth nac o werth. Maent yn codi calonnau ymgyrchwyr ond yn gwneud fawr ddim i argyhoeddi unrhyw un i newid eu pleidlais.
Eto i gyd, cerwch i rai o'r cadarnleoedd Llafur y tro hwn a chewch weld posteri rhif y gwlith hyd yn oed mewn ardaloedd lle na ddylai Llafur fod o dan unrhyw fygythiad.
Rwy'n cymryd taw pwrpas yr holl bosteri yna yw atgoffa pobol bod etholiad yn cael ei gynnal ymhen pythefnos. Mae'n ymddangos bod etholiad 2008 yn taflu ei gysgod dros Lafur o hyd a bod chwilen fach yn sibrwd yng nghlustiau ei gweithwyr "ac eto, ac eto."