Y Storm
- Cyhoeddwyd
Dyma gwestiwn bach i chi. Ydych chi erioed wedi darllen llinell o waith Islwyn. Naddo? Na finnau chwaith. Yr unig ddau beth fi'n gwybod ynghylch y boi oedd ei fod wedi canmol ei wraig gyntaf yng ngŵydd ei ail wraig ar ei wely angau a bod etholaeth Islwyn wedi enwi ar ei ôl.
Mae'n rhyfedd braidd taw un o feirdd blodeuog oes Fictoria yw'r unig berson i'w anrhydeddu yn y fath fodd yng Nghymru. Efallai bod a wnelo'r ffaith nad oedd un o'r cynghorwyr wnaeth ddewis yr enw yn medru'r Gymraeg rywbeth a'r peth!
Roeddwn i'n meddwl ynghylch Islwyn, yr etholaeth nid y bardd, ddoe wrth bori trwy ganlyniadau arolwg barn diweddaraf YouGov/ITV. Buddugoliaeth Plaid Cymru yn yr etholaeth honno yn 1999 yw'r canlyniad mwyaf annisgwyl yn hanes etholiadol Cymru. Doedd neb, gan gynnwys Plaid Cymru, wedi ei gweld y peth yn dod.
Yn ôl yn 1999 enillodd Llafur 37.6% o'r bleidlais etholaethol ac wyth ar hugain o seddi. Yn ôl YouGov 33% sy'n bwriadu pleidleisio dros Lafur yn yr etholaethau'r tro hwn - digon yn ôl fy nghyfaill Roger Scully i sicrhau wyth ar hugain o seddi unwaith yn rhagor.
Nawr, dydw i ddim am feirniadu Roger am eiliad. Does dim ffordd amgen i drin yr ystadegau er mwyn darogan faint o seddi y bydd pob plaid yn eu hennill.
Ar ôl dweud hynny os ydy'r canran Llafur cyn ised ac mae YouGov yn awgrymu fe fyddai angen cyfuniad gwyrthiol o Kabuki a Sudoku etholiadol er mwyn iddi gyflawni proffwydoliaeth Roger. Hynny yw, fe fyddai angen i ddosbarthiad y pleidleisiau Llafur fod yn rhyfeddol o effeithlon er mwyn ennill wyth ar hugain sedd.
Rydym mewn sefyllfa lle mae Llafur yn troedio llwybr cul iawn ar dir corsiog ac mae'n anodd credu na fydd y blaid yn llithro mewn ambell i fan. Y cwestiwn yw yn lle a'r gwir plaen yw does dim clem 'da fi!
Mae nos Iau nesaf am fod yn un hynod ddiddorol,