Tipyn o dŷ bach twt

  • Cyhoeddwyd

Dyma ni yn ôl yn Nhŷ Hywel felly a phawb yn ceisio dygymod gyda realiti bywyd yn y pumed Cynulliad - un fydd yn wahanol iawn i'w ragflaenydd. Wrth i'r aelodau eistedd lawr gyda'i gilydd am y tro cyntaf yfory fe fydd 'na lu o benolau newydd ar feinciau'r Senedd, plaid newydd sbon, llywydd newydd i'w ethol ond yr un hen brif weinidog.

Serch yr olaf fe ddylai naws y Cynulliad brofi'n fwy bywiog na'u rhagflaenwyr. Fel yn y Cynulliad cyntaf fe fydd presenoldeb criw o gyn aelodau seneddol yn dod â thipyn o naws y siambr honno i'r Senedd a gellir disgwyl i garfan UKIP fod ychydig yn fwy pigog a swnllyd na'r diweddar Democratiaid Rhyddfrydol.

Yn sicr opera sebon y blaid borffor sydd wedi bod yn hawlio llawer o'r sylw hyd yma ond y gwir tebyg yw y bydd ffawd y blaid honno yn gymharol amherthnasol wrth i stori'r pumed Cynulliad ddatblygu. Y deinamig rhwng Llafur a Phlaid Cymru sy'n debyg o fod yn allweddol dros y pum mlynedd nesaf ac mae'n llawer rhy gynnar i ddarogan rhyw lawer am y ffordd y bydd y berthynas honno'n datblygu.

Yn sicr dyw'r naill ochr na'r llall ddim yn awchu am glymblaid ond mae'n bosib y bydd 'na rywfaint o gydweithio a chydweithredu. Gallai'r etholiadau yfory i ddewis Llywydd y Cynulliad a'i ddirprwy fod yn arwydd o ba ffordd y mae'r gwynt yn chwythu.

Yn y cyfamser fe fydd Carwyn Jones yn pendroni ynghylch penodi ei gabinet - gyda sawl twll i'w llenwi yn sgil ymadawiadau gwirfoddol a gorfodol. Yn ôl sibrydion dyw Mark Drakeford ddim yn dymuno parhau fel Gweinidog Iechyd ond gallai llenwi'r twll hwnnw fod yn anodd gyda'r ymgeisydd amlwg, Leighton Andrews, wedi ei dorri mas.

Dyma'r penbleth i Carwyn. Mae 'na lwyth o aelodau newydd addawol ond dibrofiad ar y meinciau Llafur a chriw o bobol hynod o brofiadol ond difflach braidd ar y meinciau blaen. Sut mae sicrhau cydbwysedd rhyngddynt? Cofiwch wylio.