Steffan yn ennill Ysgoloriaeth Bryn Terfel

  • Cyhoeddwyd
steffanFfynhonnell y llun, Mei Lewis

Steffan Rhys Hughes o Langwyfan, Sir Ddinbych ydy enillydd Ysgoloriaeth Urdd Gobaith Cymru Bryn Terfel 2016., dolen allanol

Yn ogystâl â'r Ysgoloriaeth mae 'na wobr ariannol o £4,000 i'w defnyddio i ddatblygu ei dalent i'r dyfodol.

Mae Steffan yn wyneb cyfarwydd ar lwyfannau eisteddfodau lleol a chenedlaethol.

Graddiodd o Brifysgol Caerdydd gyda gradd dosbarth cyntaf mewn Cerddoriaeth.

Bellach mae Steffan yn parhau i dderbyn gwersi canu ac yn arweinydd côr Y Waun Ddyfal, Caerdydd.

Cafodd lwyddiant ysgubol yr Eisteddfod Genedlaethol yn Y Fenni eleni gan gipio gwobr goffa Lady Herbert Lewis a gwobr Llwyd o'r Bryn.

Wrth dderbyn y wobr ar lwyfan y Stiwt, Rhosllanerchrugog dywedodd Steffan "Dwi'n chuffed iawn. Mae'n gyfle gwych i ddatblygu fel perfformiwr"

Y pump cystadleuydd arall oedd

  • Rhydian Jenkins - Aelod Unigol Cylch Ogwr

  • Bethan Elin - Aelwyd Talwrn

  • Jams Coleman - Tu Allan i Gymru

  • Meilir Jones - Aelwyd yr Ynys

  • Lleucu Parri - Ysgol Gyfun Plasmawr

Cafodd y noson ei darlledu yn fyw ar S4C.