Ei Mawrhydi

  • Cyhoeddwyd

Peth digon rhyfedd yw agoriad brenhinol y Cynulliad - rhyw grochan mawr o gawl sy'n llawn o gynhwysion nad ydynt mewn gwirionedd yn gweddu â'i gilydd. Ceir ystod o symbolau seneddol Normanaidd, llond lletwad o filitariaeth Brydeinig ynghyd ag ambell i gerdd ac emyn i roi ychydig o flas Cymreig ar y cyfan.

Y rhyfeddod yw bod y peth yn gweithio o gwbl er efallai ei fod yn golygu gwahanol bethau i wahanol bobol. Yn sicr dyw'r seremoni ddim yn wrthun i aelodau Plaid Cymru fel y buodd hi yn y gorffennol gyda dim ond Bethan Jenkins yn cadw draw. O farnu o'u hwynebau roedd aelodau'r Ceidwadwyr ac Ukip wrth eu boddau â'r peth tra bod ymarweddiad yr aelodau Llafur yn fwy niwtral.

Yr hyn sy'n ddiddorol yw cymaint y mae'r seremoni wedi newid yn ystod oes fer y Cynulliad, hynny wrth i'r corff ei hun esblygu ac wrth i'r gymdeithas o'i gwmpas newid.

Un enghraifft o hynny yw'r ffordd y mae crefydd bron wedi llwyr ddiflannu o'r achlysur. Yn ôl yn 1999 cynhaliwyd gwasanaeth aml-ffydd yng Nghadeirlan Llandaf cyn cychwyn ar y busnes yn y Bae. Eleni, ac eithrio Only Boys Aloud yn canu Calon Lan doedd Duw ddim ar gyfyl pethau.

Mae hynny, mae'n debyg, yn adlewyrchu newidiadau cymdeithasol mae datblygiadau eraill yn fwy gwleidyddol eu naws.

Yn ôl yn '99, yn bennaf oherwydd yr Ysgrifennydd Cartref, Jack Straw, roedd y Cynulliad wedi ei wahardd rhag gwneud unrhyw beth a fyddai'n awgrymu bod y corff, i bob pwrpas, yn un seneddol. Prif Ysgrifennydd nid Prif Weinidog oedd yn ei arwain felly, cafwyd 'Tlws' yn lle byrllysg a fawr ddim rhwysg milwrol na barnwrol.

Fe wnaeth Dafydd Elis Thomas a Rhodri Morgan eu gorau i weddnewid y ddelwedd ac yn raddol newidiodd y sylwedd hefyd ac erbyn agor y Senedd yn 2005 roedd y fath o seremoni a welir heddiw wedi sefydlu ei hun.

Pa ots yw hyn oll? Dim llawer efallai ond mae'n werth nodi bod y teulu brenhinol yn gallu bod yn gledd ddau finiog.

Am ddegawdau roedd sawl cenedlaetholwr a sosialydd yn gweld y frenhiniaeth fel arf bropaganda i'r wladwriaeth Brydeinig, Prydeindod a chyfalafiaeth. Doedd safbwyntiau felly ddim yn ddi-sail ond mae seremonïau fel un heddiw yn dangos nad San Steffan yn unig sy'n gallu defnyddio'r teulu brenhinol i ddilysu ei hawdurdod. Croeso chwedeg nain.