Y Gwin yn Troi'n Sur
- Cyhoeddwyd
Mae 'na elfen o fytholeg yn perthyn i'r gred nad yw cyfansoddiad y Deyrnas Unedig yn un ysgrifenedig. Mae modd ei ddarllen - os ydych chi'n gwybod ym mha lefydd y sy'n rhaid chwilota. Os am arbed amser gellir darllen cyfansoddiadau un o'r gwledydd eraill sy'n defnyddio'r Westminster System. Gwnaiff Canada neu Awstralia'r tro ond mae 'na ddigon o rhai eraill hefyd.
Un o hanfodion y gyfundrefn yw ei bod hi'n system o ddemocratiaeth gynrychiadol - conglfaen a grisialwyd orau gan Edmund Burke yn ei araith enwog i etholwyr Caerodor, fel oedd y Cymry'n galw Bryste ar y pryd. Mae'n debyg eich bod yn gyfarwydd â'r cymal ond rhag ofn eich bod wedi ei anghofio, dyma fe.
"Your representative owes you, not his industry only, but his judgment; and he betrays, instead of serving you, if he sacrifices it to your opinion."
Mae'r syniad bod angen ffrwyno nwyfau gwleidyddol y bobol yn un sydd â gwreiddiau dyfnion. Yn y byd clasurol ceir dadl Plato bod gormod o ddemocratiaeth yn arwain yn anorfod at unbennaeth a dyna hefyd yw prif thema Shakespeare yn Coriolanus ac eraill o'i ddramâu.
Tan refferendwm Ewrop yn 1975 roedd caniatáu i'r etholwyr benderfynu ynghylch pwnc unigol o unrhyw bwys yn wrthun i wleidyddion Prydain ac mae'n werth nodi'r amgylchiadau wnaeth arwain at y refferendwm hwnnw gan eu bod yn rhyfeddol o debyg i'r rheiny wnaeth esgor ar y bleidlais bresennol.
Yn ôl yn 1972 wrth i'r European Communities Bill ymlwybro trwy'r senedd roedd Llafur wedi ei hollti'n wael. Roedd y mwyafrif o'r blaid seneddol o blaid ymuno â'r Farchnad Gyffredin tra bod yr undebau, y pwyllgor gwaith cenedlaethol a'r mwyafrif o'r trŵps ar lawr gwlad yn ffyrnig yn erbyn y "European Capitalist Club" fel y'i gelwid.
Tacteg i gyfleu ffug-undod oedd penderfyniad y blaid seneddol i gefnogi gwelliant i'r mesur yn galw am refferendwm - gwelliant oedd yn sicr o fethu.
Fe weithiodd y dacteg hefyd. Pa niwed felly oedd mewn defnyddio'r un syniad wrth lunio maniffesto'r blaid ar gyfer etholiad Chwefror 1974 - etholiad nad oedd neb yn disgwyl i Lafur ei ennill? Addewid gwag na fyddai'n rhaid ei wireddu oedd y refferendwm i fod - ond roedd blwch Pandora wedi ei agor a'r gath allan o'r cwd a phan etholwyd Llafur doedd dim dewis ond bwrw ymlaen.
Fe lwyddodd Harold Wilson i ennill y bleidlais trwy esgus ail-negodi termau aelodaeth Prydain a chodi llond bola o ofn ar yr etholwyr ond roedd cynsail wedi ei osod. Y cynsail hwnnw wnaeth arwain at y ddau refferendwm yn 1979 a gohirio datganoli i Gymru a'r Alban am genhedlaeth.
Nawr gadewch i ni edrych ar y sefyllfa heddiw. Fel un Wilson addewid i geisio sicrhau undod o fewn ei blaid oedd addewid Cameron i gynnal refferendwm ynghylch aelodaeth Prydain o'r Undeb Ewropeaidd. Does dim angen bod yn sinig llwyr i gredu taw ei fwriad oedd gollwng y syniad yn ystod trafodaethau am ail glymblaid gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol.
Ond, eto fel Wilson, enillodd Cameron fuddugoliaeth annisgwyl gan baentio ei hun mewn i gornel o safbwynt cynnal pleidlais. Y gwahaniaeth y tro hwn yw nad yw'r ffug-negodi a'r codi bwganod hyd yma wedi argyhoeddi'r etholwyr.
Os ydy'r arolygon barn yn gywir, ac mae honno'n 'os' enfawr, mae senedd lle mae tri chwarter o'r aelodau o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd ar fin cael ei gorfodi i ddeddfu'n groes i'w greddf - a hynny oherwydd ffolineb Ceidwadwr wnaeth anghofio ei geidwadaeth.
Fe wnes i grybwyll Plato yn gynharach fe wnâi gwpla trwy ddyfynnu dau feddyliwr mawr arall sef Caryl Parry Jones a Myfyr Isaac! "Os oes 'na rywun yn gwrando ar fy nghân, mae'r chwarae'n troi'n chwerw wrth chwarae 'fo tân."