Ble nawr?

  • Cyhoeddwyd

Ble mae dechrau, dywedwch? W.B. Yeats sydd â'r geiriau gorau efallai. "All is changed, changed utterly" medd y bardd yn ei gerdd i goffáu gwrthryfel y Pasg - y digwyddiad wnaeth esgor ar wladwriaethau yr ynysoedd hyn ar eu ffurf bresennol.

A dyna fy mhwynt cyntaf - gwlad a gwladwriaeth ifanc yw Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon. Mae llawer o nonsens seremonïol, seneddol a brenhinol yn cael ei ddefnyddio i gelu'r ffaith honno, ond mae gwladwriaeth 1922 yn wahanol i'w rhagflaenwyr mewn ffyrdd ffwndamentalaidd. Fe'i sefydlwyd hi llai na chanrif yn ôl ac am bron i hanner ein heinioes mae hi wedi bod yn rhan o uwch-wladwriaeth yr Undeb Ewropeaidd.

Mae'n anorfod felly y byddai penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd yn golygu bod pob agwedd arall o'r setliad cyfansoddiadol yn cael ei gwestiynu - perthynas y Deyrnas â'r Weriniaeth a pherthynas gwledydd y Deyrnas â'i gilydd yn eu plith. Mae 'na lawer o bobol rymus iawn yn ein cymdeithas sydd am gau'r cwestiynau hynny i lawr cyn gynted â bo modd.

Dyna un o'r rhesymau i mi ddefnyddio'r cyflwr amodol yn y paragraff uchod - 'dyna a fyddai'n digwydd' nid 'dyna fydd yn digwydd'.

I fod yn eglur dyw'r penderfyniad i adael yr Undeb ddim wedi ei gymryd eto. Yr hyn sydd ar y ford ar hyn o bryd yw mwyafrif bychan mewn refferendwm ymgynghorol - dim byd llai a dim byd mwy na hynny. Mae p'un ai y bydd yr argymhelliad i adael yr Undeb yn cael ei wireddu ai peidio yn fater agored.

Mae'n rhyfeddod i mi nad yw arweinwyr yr ymgyrch 'Gadael' yn wyllt gacwn ynghylch penderfyniad David Cameron i dorri ei addewid i gychwyn y broses o adael yn syth ar ôl y bleidlais. Yn wir, mae'n codi cwestiwn ynghylch ymroddiad ambell un i'w hachos nad ydynt yn neidio i fyny ac i lawr i fynnu bod y Llywodraeth yn cychwyn y broses ffurfiol yr eiliad yma.

Eisoes mae ysgrifennydd iechyd Lloegr, Jeremy Hunt, wedi awgrymu na ddylai'r broses ffurfiol gychwyn tan ar ôl yr etholiad cyffredinol nesaf yn 2020. Ie, wel! Fe fyddai unrhyw un yn credu bod 'na ffics ar y ffordd.

Oedi yw arf orau'r ochr aros - a gadewch i ni gofio bod gan yr ochr honno fwyafrif yn Nhŷ'r Cyffredin. Sut mae ei defnyddio hi yw'r broblem i Jeremy Hunts a Syr Wmffras y byd yma. Wedi'r cyfan, gallasai oedi ac osgoi gwneud datganiad Erthygl 50 yrru pleidleiswyr yr ochr mas i gyfeiriad Ukip.

A fydd y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd felly? 50:50 yw'r ateb, dybiaf i, a gyda llaw, yn yr achos yma mae 'na ambell i fodd i fod yn hanner feichiog!