Coed Mametz

  • Cyhoeddwyd

Mae hi wedi bod yn rheol euraidd i mi ers blynyddoedd i beidio cymryd gwyliau tra bod y Cynulliad na'r Senedd yn eistedd. Am y tro cyntaf erioed penderfynais dorri'r rheol yr wythnos ddiwethaf gan ddiflannu o'r wlad am gwpwl o ddyddiau. Rwy'n cymryd na chollais i ryw lawer!

Pererindod bersonol oedd wedi fy nhemtio mas o'r wlad. Roedd fy nhad-cu yn o'r rheiny wnaeth ymladd ym mrwydr Mametz ac roeddwn yn teimlo rhyw fath o ddyletswydd i fynychu'r canmlwyddiant.

Bachgen o Borthmadog oedd Tom Owen, tad fy mam. Fe ymunodd a'r fyddin yn wythnosau cyntaf y rhyfel ac fe fu fyw trwy'r cyfan. Bu farw cyn fy nyddiau i ac, yn ôl y son, roedd e'n gyndyn iawn i rannu ei brofiadau ym Mametz a sawl brwydr arall. Efallai bod y ffaith iddo ddewis agor drws ei gartref yng Nghaerdydd yn ystod yr ail rhyfel byd i gynnig lloches i wrthwynebwyr cydwybodol a ffoaduriaid yn dweud rhywbeth am yr effaith y cafodd y Rhyfel Mawr arno.

Does dim modd gwybod sut oedd Tom Owen yn teimlo ynghylch y rhyfel adeg brwydr Coed Mametz ond ar ôl dwy flynedd o frwydro mae'n debyg ei fod wedi colli llawer o'r delfrydau wnaeth ei ysbarduno i gymryd swllt y brenin.

Yn sicr nid dynion yn unig a laddwyd ar gadfeysydd Ewrop - gadawyd delfrydau, arferion a gobeithion yr oes Edwardaidd yn gelain hefyd. Gellir dadlau, er enghraifft, mai yn llaid y Somme y claddwyd y cysyniad o Gymru fel gwlad anghydffurfiol, Cymraeg ei hiaith ac yn y fan honno hefyd y dechreuodd datgymaliad yr hen blaid Ryddfrydol.

O fewn byr o dro ar ôl y rhyfel roedd cyfundrefn ddwy blaid y Ceidwadwyr a Llafur wedi sefydlu ei hun a'r gyfundrefn honno sydd wedi bod wrth galon ein gwleidyddiaeth byth ers hynny. Nawr mae'n ymddangos bod ein system bleidiol yn sefyll wrth ymyl y dibyn am y tro cyntaf ers tridegau'r ganrif ddiwethaf gyda chwestiynau difrifol i'w gofyn ynghylch parhad y blaid Lafur yn ei ffurf bresennol.

Rwy'n betrusgar braidd ynghylch cymharu argyfwng gwleidyddol ein dyddiau ni a digwyddiadau'r Rhyfel Mawr. Rwy'n gwneud i'r graddau hyn yn unig.

Canlyniad methiant gwleidyddol oedd y rhyfel - doedd neb yn dymuno iddi ddigwydd ond doedd neb ychwaith yn gwybod sut oedd ei rhwystro hi rhag digwydd. Gellir dweud union yr un peth wrth ystyried y tebygrwydd bod Llafur ar fin chwalu. Does neb oddi mewn i'r blaid yn deisyfu ei diwedd - ond neb ychwaith yn gwybod sut mae ei hachub.

Roedd y pris a dalwyd am fethiannau gwleidyddion ddechrau'r ugeinfed ganrif yn arswydus. Dyw pris posib methiannau ein cyfnod ni ddim yn cymharu mewn gwirionedd. Eto i gyd, mae syllu i dywyllwch Coedwig Mametz yn fodd i'n hatgoffa nad gêm yw gwleidyddiaeth - ac mae gwleidyddion sy'n ei thrin hi felly yn haeddu'n dirmyg - ym mha bynnag gyfnod.