Wele Cawsom
- Cyhoeddwyd
Un o driciau newyddiaduraeth yw llenwi'ch gwaith a phroffwydoliaethau a darogan ac yna tynnu sylw'r darllenwyr at eich llwyddiannau gan dawel anwybyddu'r camau gwag. Am wn i, mae'n dacteg wnaeth newyddiadurwyr ei dysgu gan ddynion hysbys - mae'n hen fel pechod ond yn dal i weithio er lles mawr i rai!
Rwy'n teimlo ychydig bach o gywilydd felly wrth dynnu sylw at rhywbeth sgwennais i yn ôl yn 2012 pan benodwyd Owen Smith yn llefarydd yr wrthblaid ar Gymru.
"Owen yw'r Aelod Seneddol cyntaf o Gymru ers Neil Kinnock y gallaf ddychmygu yn arwain y Blaid Lafur ar lefel Brydeinig. Mae croeso i chi chwerthin ar ben yr honiad hwnnw - ond fe'i gwnâi'ch atgoffa o'i fodolaeth hyd syrffed os ydy Aelod Pontypridd yn cyrraedd brig ei blaid!"
Mewn gwirionedd doeddwn i ddim yn credu y byddai Owen yn cyrraedd y brig ond ar y pryd, yn 2012, fe oedd yr unig aelod Llafur o Gymru oedd â'r cyfuniad angenrheidiol o uchelgais a thalent i gael ei ystyried fel arweinydd posib. Fel mae'n digwydd mae 'na ambell i aelod arall i gadw llygad arnynt erbyn hyn. Gallasai Nick Thomas-Symonds yn Nhorfaen fod yn un i wylio, ef enghraifft.
Ond y cwestiwn mawr ar hyn o bryd yw pam ar y ddaear y byddai unrhyw un yn dymuno arwain y Blaid Lafur yn ei chyflwr presennol?
Fe fydd angen amynedd Job, doethineb Solomon ynghyd a chryn dipyn o lwc a chyfrwystra i adfer gobeithion y blaid - pam felly y mae Owen yn mynd amdani?
Yr ateb syml i'r cwestiwn hwnnw yw ei fod yn credu ei fod yn gallu ennill ac yn argyhoeddedig bod ganddo'r sgiliau i ddadwneud y difrod a achoswyd i'r blaid dros y blynyddoedd diwethaf.
Ond y peth pwysicaf i gofio efallai yw ymroddiad llwyr Owen i'r blaid Lafur - nid i unrhyw ddogma arbennig nac unrhyw arweinydd arbennig ond i'r blaid ei hun - ei hanes, ei thraddodiadau a'i henw.
Yn hynny o beth mae Owen yn wleidydd llwythol o fath sy'n anarferol y dyddiau hyn. Llafur yw ei dîm doed a ddelo - er gwell, er gwaeth, er cyfoethocach, er tlotach, yn glaf ac yn iach. Ystyriwch yr hyn oedd ganddo i ddweud wrth gyhoeddi ei fwriad i ymgeisio.
"I will never split the Labour party. I will be Labour until the day I die."
Gallwch fynd a'r geiriau yna i'r banc. Gwir yw pob gair yn yr achos hwn. Problem Owen a'r blaid Lafur yw bod teyrngarwch pleidiol felly yn beth digon anarferol y dyddiau hyn.
Heb deyrngarwch felly mae'n anodd gweld sut y gall y blaid osgoi hollt. O leiaf gallwn fod yn sicr ar ba ochor i'r hollt y bydd Owen! Fe fydd pwy bynnag sy'n piau'r enw yn berchen ar aelod Pontypridd!