Marw i fyw mae'r haf o hyd
- Cyhoeddwyd
'Dyddiau'r cŵn', y 'silly season' - mae gan newyddiadurwyr bod math o enwau ar gyfer yr haf a'r rhan fwyaf ohonyn nhw'n ceisio cyfleu'r ffaith bod fawr o ddim yn digwydd yn ystod misoedd Gorffennaf ac Awst.
Roedd 'na wirionedd yn perthyn i'r peth ar un adeg. Doedd y Senedd, y Cynghorau na'r llysoedd yn eistedd yn ystod hirddyddiau'r haf a heb y rheiny roedd pethau'n weddol hesb yn ein hystafelloedd newyddion.
I'r rheiny oedd yn gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg roedd y tair wythnos ar ôl yr Eisteddfod yn hunllefus. Doedd diawl o ddim yn digwydd ac ar ben hynny roedd y byd a'i wraig bant yn Llydaw yn eu carafannau! Diolch byth bod pen-blwydd John Evans, Llewitha, dyn hynaf y byd, ym mis Awst, oedd cri ambell i olygydd!
Mae pethau wedi newid erbyn hyn ac eleni go brin fod gwleidyddion ar yr ochr goch yn pacio bagiau a heglu hi am y Costas. Seneddwr ar Dramp? Dim ffiars o beryg.
Fe wnes i chwythu fy nghorn fy hun y dydd o'r blaen trwy dynnu sylw at flog o 2012 lle gwnes i broffwydo y gallasai Owen Smith arwain ei blaid rhyw ddydd. Rwyf am fynd cam ym mhellach heddiw trwy ddarogan y bydd Owen yn ennill yr arweinyddiaeth ym mis Medi er gwaetha'r dystiolaeth i'r gwrthwyneb.
Mae'r dystiolaeth honno yn dibynnu'n bennaf ar arolygon sy'n awgrymu bod dros hanner y rheiny sydd â'r hawl i bleidleisio yn yr ornest yn aros yn driw i Jeremy Corbyn. Nawr, mae 'trac record' y polwyr pan mae'n dod ar etholiadau mewnol y blaid Lafur yn rhyfeddol o agos at y marc. Mae YouGov yn arbennig wedi bod yn agos iawn ati mewn etholiadau blaenorol.
Fe wnewch chi synhwyro bod yna 'ond' yn dod! Dyma fe. Mae 'na fyd o wahaniaeth rhwng arolwg barn ar ddechrau ymgyrch ac un ar ei ddiwedd - yn enwedig pam y'ch chi'n son am etholwyr gwybodus a gweithgar.
Mae'n deg synhwyro, fi'n meddwl, bod yr arolygon ar hyn o bryd yn adlewyrchu uchafswm pleidlais Jeremy Corbyn ac isafswm pleidlais Owen Smith. Hynny yw, mae'n ddigon hawdd dychmygu pobol sy'n gefnogol i Corbyn ar hyn o bryd yn newid eu meddyliau wrth i'r dicter yn erbyn y blaid seneddol ostegu. Mae'n anodd credu y bydd 'na Owenistas yn troi eu cefnau ar eu harwr.
Gallasai dylanwad yr undebau a'u harweinwyr fod yn allweddol wrth i'r ras ddatblygu ac mae 'na ambell arwydd bod cefnogaeth rhai ohonynt i Jeremy Corbyn braidd yn simsan. Fe gawn weld, ond leiaf fe fydd gan newyddiadurwyr gwleidyddol digon i ysgrifennu yn i gylch dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf.