Yr Arglwydd Elystan Morgan wedi marw yn 88 oed
- Cyhoeddwyd
Mae'r gwleidydd Llafur o Geredigion, yr Arglwydd Elystan Morgan wedi marw yn 88 oed.
Roedd yn ddatganolwr a weithiodd tuag at sefydlu senedd i Gymru, oddi fewn i ddwy blaid wleidyddol, y ddwy siambr yn San Steffan a thu hwnt.
Bu'n AS Llafur dros Geredigion am wyth mlynedd ac fe'i dyrchafwyd i Dŷ'r Arglwyddi yn 1981.
Cafodd yrfa gyfreithiol ddisglair hefyd, gan weithio fel cyfreithiwr, yna'n fargyfreithiwr ac wedyn yn farnwr.
Bu'n Llywydd Prifysgol Cymru, Aberystwyth, rhwng 1997 a 2007.
Plaid Cymru
Ganed Elystan Morgan yn 1932 ym Mhen-y-garn yng Ngheredigion. Astudiodd y gyfraith yn Aberystwyth cyn gweithio fel cyfreithiwr yn Wrecsam am ddegawd.
Safodd fel ymgeisydd seneddol dros Blaid Cymru yn isetholiad Wrecsam yn 1955, ac eto yn yr etholiad cyffredinol a ddilynodd ddeufis yn ddiweddarach. Safodd yno am y trydydd tro yn etholiad cyffredinol 1959.
Fel cyfreithiwr, amddiffynnodd David Walters a David Pritchard, a oedd wedi ceisio rhwystro'r gwaith o foddi Cwm Tryweryn trwy ddifrodi offer ar y safle. Cawsant ddirwy o £50 yr un.
Safodd fel ymgeisydd dros Blaid Cymru ym Meirionnydd yn 1964.
Mewn cyfrol o atgofion a gyhoeddodd yn 2012, dywedodd Elystan Morgan ei fod wedi ymuno â Phlaid Cymru gan gredu y gallai ennill "y fath gefnogaeth fwyafrifol yng Nghymru gan orfodi llywodraeth y dydd... i ganiatáu senedd i'r genedl.
"Erbyn canol y chwedegau roedd yn ymddangos yn hollol amlwg na fyddai hynny'n digwydd o fewn ein dyddiau ni."
Aeth ymlaen i ddweud: "O fewn Llafur felly yr oedd y gwaith mwyaf i'w wneud."
Gadawodd Blaid Cymru yn Awst 1965 "gan deimlo o lwyrfryd calon mai oddi mewn i'r Blaid Lafur y byddai fy nghartref gwleidyddol o hynny ymlaen".
Yn annisgwyl iddo fe, cafodd ei ethol yn AS Llafur dros Sir Aberteifi yn etholiad cyffredinol 1966. Bu'n gadeirydd ar y Blaid Lafur Seneddol ac yn weinidog yn y Swyddfa Gartref.
Collodd Llafur etholiad 1970 ac yn y cyfnod a ddilynodd bu'n llefarydd yr wrthblaid ar faterion cartref am ddwy flynedd cyn symud i fod yn llefarydd materion Cymreig.
Collodd sedd Sir Aberteifi i'r Rhyddfrydwr Geraint Howells yn Chwefror 1974.
Roedd yn llywydd yr ymgyrch 'ie' dros ddatganoli yn 1979, gan hyrwyddo'r achos mewn nifer o gyfarfodydd cyhoeddus.
Wrth gyfeirio at ganlyniad refferendwm 1979 dywedodd: "Daeth Gŵyl Ddewi a'i gwawr greulon."
Efallai'n rhannol oherwydd ei weithgarwch yn yr ymgyrch ddatganoli y flwyddyn honno, methodd yn ei ymgais i gael ei ethol yn AS yn Ynys Môn yn 1979.
Wrth adlewyrchu ar ddatblygiad datganoli dros ddegawdau ei yrfa wleidyddol, dywedodd fod llwybr wedi ei hagor i'r Cynulliad â phwerau deddfu sydd gan Gymru heddiw o'r diwrnod y creodd y llywodraeth Lafur ysgrifenyddiaeth i Gymru yn 1974, gan deimlo ei fod wedi chwarae rhan yn hynny.
Wedi i Elystan Morgan golli'i sedd seneddol, dechreuodd weithio fel bargyfreithiwr mewn siambrau yng Nghaerdydd.
Cafodd ei ddyrchafu i Dŷ'r Arglwyddi fel yr Arglwydd Elystan Morgan yn 1981.
Bu'n aelod o fainc flaen Llafur gan ganolbwyntio ar faterion cyfreithiol a chyfansoddiadol tan iddo gael ei ddewis yn farnwr yn 1987.
"Am y 19 mlynedd nesaf felly fe alltudiwyd gwleidyddiaeth yn gyfan gwbl o'm bywyd hyd nes i mi ymddeol o'r Fainc yn 2005."
Dychwelodd i Dŷ'r Arglwyddi yn 2005, ac eistedd yno fel croesfeinciwr gan ei fod yn gyn-farnwr.
Yno, rhoddodd gryn sylw i Fesur Llywodraeth Cymru 2006, mesur a alluogodd y refferendwm ar bwerau deddfu i'r Cynulliad Cenedlaethol.
Wrth sôn am ei gyfraniad i'r ddadl am y mesur hwnnw dywedodd: "Pe tawn i ddim wedi g'neud dim byd yn fy mywyd ond hynny mi fyddwn i'n gweud bod e'n cyfiawnhau'r hyn a nes i [gadael Plaid Cymru ac ymuno â Llafur] ... costied a gostio."
Wrth roi teyrnged iddo, dywedodd ei gyfaill, y cyn-Dwrne Cyffredinol, yr Arglwydd John Morris ei fod wedi "colli ei gyfaill gorau ers dyddiau ysgol", a bu'n cofio ei frwydr dros ddatganoli.
"Roeddem fel dau deulu ar ein gwyliau yng Nghernyw, pan ddaeth i fyny o'r traeth amser cinio gyda'r syniad, a oedd yn hollol newydd i mi, i'r Llywodraeth sefydlu Comisiwn Brenhinol ar y Cyfansoddiad.
"Roeddem ein dau wedi cytuno ers blynyddoedd mai dim ond llywodraeth Lafur allai ddeddfu i Gymru gael rheolaeth o Gaerdydd. Gwireddwyd y freuddwyd o'r diwedd, ar ôl taith helbulus ym 1979.
"Roedd yn Gardi, ac yn Gymro gwir fawr. Mae hon yn wir golled, Cymro a gadwodd at y ffydd."
'Dylanwad mawr iawn'
Dywedodd cyn-arweinydd Plaid Cymru, yr Arglwydd Dafydd Wigley, bod ganddo "barch mawr" tuag at Elystan Morgan.
"Roedd o'n un o gymeriadau gwleidyddol canol y ganrif ddiwethaf, ac am gyfnod fe gafodd o ddylanwad mawr iawn.
"Mae'n debyg mae ei gyfraniad mwyaf oedd yng nghyd-destun symud datganoli ymlaen ar gyfnod allweddol yn y 60au.
"Does 'na ddim cwestiwn, pan roedd Elystan yn siarad o'r croes feinciau yn Nhŷ'r Arglwyddi, byddai'r tŷ yn gwrando arno fo.
"Roedd o'n siarad gydag awdurdod ac oedd ganddo fo ffordd a steil o siarad oedd yn mynnu fod pobl yn gwrando arno fo."
Roedd yr Arglwydd Elystan Morgan hefyd yn flaenor ffyddlon yng Nghapel y Garn, Bow Street ger Aberystwyth.
Wrth ei gofio dywedodd Marian Beech Hughes, cyd-flaenor iddo ac un a fu'n golygu ei gyfrol atgofion, ei fod yn "berson hollol arbennig ac unigryw".
"Roedd o wedi bod yn flaenor yng Nghapel y Garn ers oddeutu hanner can mlynedd ac roedd o'n hynod o ffyddlon a gweithgar," meddai wrth siarad â Cymru Fyw.
"Roedd hi'n fraint mynd i gyfarfod blaenoriaid i'w glywed o'n dadlau a dadansoddi - byddai wrth ei fodd yn dadansoddi pregeth ac yn gwneud hynny yn rhesymegol," ychwanegodd.
"Fe fyddai'n dod yma bob nos Sul pan roeddwn i'n golygu ei gyfrol ac roedd o'n gwmni da - yn llawn straeon ac roedd o wastad mor werthfawrogol a diymhongar.
"Roedd ei gof yn arbennig - yn cofio llu o emynau, adnodau a'r manylion eithaf am ddigwyddiadau ac achosion. Yn ei gyfrol doedd o ddim am ddifenwi neb - roedd o am weld ochr orau pawb.
"Roedd o wir yn byw ei Gristnogaeth ac wedi cadw at ei egwyddorion Sosialaidd gydol ei oes. Dwi'n cofio fo'n sôn am achosion plant gyda'r emosiwn eithaf.
"Fydd hi'n chwith mawr ar ei ôl yn y capel a'r ardal."
Cafodd ei ddisgrifio fel "cawr" gan Dr Huw Williams, a ysgrifennodd hunangofiant Elystan Morgan.
"Yr hyn wnaeth ysgogi fi yn y pendraw oedd gwrando ar Elystan yn traethu yn yr adran gwleidyddiaeth ryngwladol [ym Mhrifysgol Aberystwyth] ar sefyllfa datganoli yng Nghymru a'r hanes diweddara'.
"Cefais i fy syfrdanu wrth wrando arno ef, pa mor huawdl oedd Elystan, y ffordd oedd o'n gallu esbonio'r ieithwedd, yr holl berfformiad.
"Wrth gwrs roedd rhywun yn ymwybodol o hynny o wybod rhywfaint am ei yrfa fel gwleidydd, ond roedd gweld e yn y cig a gwaed yn perfformio felly. Roeddwn i'n teimlo bod rhaid i ni gael stori'r cawr yma ar glawr."
Priododd ag Alwen Roberts yn 1959. Wedi ei marwolaeth yn 2006 dywedodd amdani: "Buodd hi'n gefn ac yn ysbrydoliaeth i mi ym mhob peth."
Mae'n gadael merch, Eleri a mab, Owain a'u teuluoedd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Gorffennaf 2021