Blog Vaughan: Elystan

  • Cyhoeddwyd

Fe fyddai'n rhaid chwilio yn bell iawn i ddod o hyd i rywun nad oeddynt yn hoff o Elystan Morgan. Roedd yn ymgorfforiad o addfwynder a chwrteisi ac roedd gwrando ar ei lais melfedaidd a'i Gymraeg perffaith bob tro yn bleser.

Roedd yn ddyn mawr ei ddysg a hynod alluog ond yn gwisgo'r ddau beth yn ysgafn. Nid uchelgais nac ego oedd yn gyrru Elystan ond ei ddaliadau gwleidyddol ac yn fwyaf arbennig ei ymroddiad i Gymru.

Hawdd yw anghofio felly ei fod ar un adeg yn destun gwawd a chasineb gan genedlaetholwyr, pobl yr oedd e i raddau helaeth yn cytuno â nhw.

Penderfyniad Elystan i adael Plaid Cymru a throi at Lafur oedd gwraidd y drwg. Roedd Plaid Cymru wedi colli ei mab darogan, y "Gwynfor ifanc" a fyddai'n arwain y genedl tuag at wawr newydd. Mae'n anodd gor-ddweud ynghylch maint y casineb tuag ato.

Ond nid dim ond casineb oedd ar droed, roedd 'na ddirmyg hefyd. Hawdd oedd credu bod Elystan wedi gwneud camgymeriad difrifol gan fod buddugoliaeth hanesyddol Plaid Cymru yn isetholiad Caerfyrddin wedi ei sicrhau o fewn byr i dro i'w ymadawiad.

Teg yw credu y byddai gyrfa Elystan yn Nhŷ'r Cyffredin wedi bod yn un llawer mwy hirhoedlog pe bai wedi aros ym Mhlaid Cymru yn hytrach na throi at Lafur. Doedd ystyriaethau felly ddim yn poeni Elystan ac fe brofodd hynny yn ddiweddarach.

Ar ôl colli Ceredigion yn 1974, cafodd ei ddewis gan Lafur i olynu Cledwyn Hughes yn etholaeth Môn. Pe bai e wedi canolbwyntio ar y sedd honno, yna mwy na thebyg fe fyddai fe wedi ei hennill.

Yn lle hynny, canolbwyntiodd ar arwain ymgyrch aflwyddiannus Ie dros Gymru yn refferendwm 1979 gan aberthu ei yrfa ei hun dros achos colledig.

Mewn sawl ffordd roedd y meinciau cochion yn gweddu'n well i bersonoliaeth Elystan na'r rhai gwyrddion. Roedd gwleidyddiaeth fwy ystyrlon y siambr uchaf yn ei siwtio ac roedd ei gyfraniadau bob tro yn derbyn gwrandawiad astud.

I genedlaetholwyr y 1960au, person twyllodrus dauwynebog a dichellgar oedd Elystan. Mae treigl y degawdau wedi profi mai'r gwrthwyneb oedd yn wir. Gwleidydd o egwyddor oedd Elystan ac mae rheiny'n bethau digon prin y dyddiau hyn.

Da was, da a ffyddlon. Rhedaist y ras. Cedwaist y ffydd.