Gostyngiad yn nifer y bobl sy'n rhoi gwaed yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
GwaedFfynhonnell y llun, Gwasanaeth Gwaed Cymru

Mae nifer y bobl sy'n rhoi gwaed yng Nghymru wedi gostwng dros y 10 mlynedd diwethaf, yn ôl Gwasanaeth Gwaed Cymru.

Mae gostyngiad o 34% wedi bod yng nghyfanswm nifer y rhoddwyr, a gostyngiad o 41% yn nifer y bobl sy'n rhoi am y tro cyntaf.

Mae'r gwasanaeth wedi galw hefyd i fwy o bobl ifanc roi gwaed, wrth i'r ffigyrau ddangos mai dim ond 14% o roddwyr sydd rhwng 17 a 24 oed.

Ond mae cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwaed Cymru wedi pwysleisio nad oes argyfwng mewn stociau gwaed.

'Cymysgedd o grwpiau gwaed'

"Er bod y defnydd o waed mewn ysbytai yn gostwng, rydyn ni angen mwy o roddwyr ifanc i ddiogelu cyflenwad gwaed ar gyfer y dyfodol," meddai Cath O'Brien.

"Mae angen rhoddwyr newydd pob blwyddyn i gymryd lle y rhai sydd ddim yn gallu bellach, yn ogystal â sicrhau'r cymysgedd cywir o grwpiau gwaed i gwrdd ag anghenion cleifion nawr ac yn y dyfodol."

Daw galwad y gwasanaeth wrth iddyn nhw ymuno â gwasanaethau gwaed eraill o amgylch y byd yn ymgyrch Teipiau Coll, sy'n ceisio gwrthdroi'r gostyngiad yn nifer y rhoddwyr.

Yng Nghymru, mae angen 13,000 o roddwyr newydd bob blwyddyn, ac i gyflenwi ysbytai Cymru mae'r gwasanaeth gwaed angen 450 o roddwyr pob diwrnod.