Ffair Brexit

  • Cyhoeddwyd

Mae honiad Enoch Powell bod gyrfa pob gwleidydd yn diweddu mewn methiant wedi troi'n dipyn o ystrydeb erbyn hyn. Eto i gyd mae'n anodd peidio meddwl am y sylw wrth wylio cwymp David Cameron.

Y broblem yw nad yw 'methiant' mewn gwirionedd yn cyfleu maint y dinistr i enw da deiliad diwethaf Downing Street. Blwyddyn yn ôl roedd Cameron fel ceiliog ar ei domen ar ôl ei fuddugoliaeth annisgwyl yn yr Etholiad Cyffredinol. Erbyn hyn, prin bod diwrnod yn mynd heibio heb iddo orfod dioddef clatsied arall. Ei benderfyniad i ymyrryd yn Libya sydd dan y lach heddiw. Pwy a ŵyr beth fydd hi yfory?

Am unwaith, does dim rhai i ni aros i wybod a fydd haneswyr y dyfodol yn barnu ei gyfnod wrth y llyw fel llwyddiant neu fethiant.

Mae ei benderfyniad i alw refferendwm pam nad oedd angen gwneud hynny ac yna ei golli yn taflu cwmwl dros bopeth arall. Does dim ots chwaith os ydy Brexit yn profi'n llwyddiant neu'n fethiant o safbwynt y canfyddiad o Cameron. Os ydy Prydain yn ffynnu tu fas i'r Undeb Ewropeaidd Nigel, Boris a'u criw fydd yn cael y clod. Os ydy'r hwch yn mynd trwy'r siop Cameron fydd yn cael ei feio.

Beth achosodd y cwymp arswydus hwn? Beth oedd y drwg yn y caws?

Mae 'na un hanesyn sy'n rhoi cliw bach i ni yn fy marn i. Yn ôl yn y dyddiau pan oedd Cameron yn arwain yr wrthblaid fe ofynnwyd iddo pam yr oedd yn dymuno bod yn Brif Weinidog. "Because I think I'd be good at it", oedd ei ateb.

Mae'n anodd peidio dod i'r casgliad mai'r hunan hyder rhyfedd yna a fegir gan ein hysgolion bonedd wnaeth argyhoeddi Cameron i fentro i fyd gwleidyddiaeth. Nid arddeliad nac ideoleg oedd yn gyrru Cameron ond ei hyder diddiwedd yn ei allu ei hun i wneud y penderfyniad cywir.

Hubris a nemesis. Mae'n hen, hen stori. Tynnwyd y llen yn ôl a doedd 'na ddim dewiniaeth yn Oz, wedi'r cyfan.

Wrth i David Cameron ddiflannu a'i gwt rhwng ei goesau mae'n ddiddorol nodi nad yw George Osborne am ddilyn ei esiampl. Oherwydd eu cefndiroedd breintiedig a'u cydweithio agos hawdd yw gweld Cameron ac Osborne fel dwy ochr yr un geiniog, ond meddwl nid mympwy sy'n gyrru'r cyn-ganghellor.

Pe bawn i'n cynghori'r Prif Weinidog newydd byswn i'n awgrymu iddi gadw llygad barcud ar aelod Tatton. Os ydy'r etholwyr yn dechrau chwilio am 'fire exit' o'r ffair Brexit fe fydd y cyn-ganghellor yno i achub ar ei gyfle. Wrth i Cameron gamu o'r cae - mae Osborne dal yn y gêm.