Plaid Schrödinger
- Cyhoeddwyd
Rwy'n cymryd bod darllenwyr y blog hwn yn gyfarwydd â chath Schrödinger - y ddamcaniaeth ei bod hi'n bosib i rywbeth fodoli a pheidio bodoli'r un pryd.
Chwi gofiwch fod y gath chwedlonol wedi ei chau mewn blwch gyda gronyn ymbelydrol a fyddai'n gallu lladd y gath ar hap ar unrhyw adeg. Doedd dim modd canfod o'r tu fas i'r blwch a oedd y gronyn wedi tanio ai peidio felly, yn ôl Schrödinger, roedd y gath yn fyw ac yn farw ar yr un pryd. Dim ond trwy agor y blwch yr oedd modd pennu cyflwr y gath. Hynny yw, mae'r realiti yn dibynnu ar y canfodydd.
Mae cathod Schrödinger yn bethau digon cyffredin yn ein gwleidyddiaeth ni. Yn eu plith mae Llafur Cymru, y Ceidwadwyr Cymreig ac Ukip Cymru. Yn wahanol i Blaid Cymru a Democratiaid Rhyddfrydol Cymru mae statws a bodolaeth gyfreithiol y 'pleidiau' Cymreig hyn yn amwys a dweud y lleiaf.
Gadewch i ni edrych ar statws Llafur Cymru fel enghraifft.
Y blaid Brydeinig sydd wedi ei chofrestri gyda'r Comisiwn, dolen allanol gyda "Labour Party" fel ei enw swyddogol a "Llafur" fel enw amgen. "Llafur", sylwer nid "Llafur Cymru." Mae'r enwau "Llafur Cymru" a "Welsh Labour" ond wedi eu cofrestri fel disgrifiadau y mae'r "Labour Party / Llafur" yn eu defnyddio.
O safbwynt cyfreithiol felly dyw Llafur Cymru yn ddim byd mwy nac un o frandiau'r blaid Lafur. Yn wahanol i'r pleidiau etholaethol dyw hi ddim hyd yn oed yn cael ei hystyried yn uned gyfrifo.
Mewn un ystyr felly gallwch chi ddadlau nad yw Llafur Cymru yn bodoli. Ond fel cath Schrödinger mae Llafur yn bodoli ac yn peidio bodoli ar yr un pryd. Mae ganddi bwyllgor gwaith, pencadlys, ysgrifennydd cyffredinol ac arweinydd a phrin yw'r ymyrraeth o gyfeiriad Llundain mewn gwirionedd.
Yn wir ers datganoli mae Llafur Cymru wedi ymddwyn mewn ffordd llawer mwy annibynnol na Llafur yr Alban oedd dan fawd bwystfilod mawr Albanaidd San Steffan nes i'r rheiny drigo.
Mae penderfyniad y pwyllgor gwaith Prydeinig i ffurfioli perthynas y pleidiau Cymreig ac Albanaidd yn gam hanesyddol - yn enwedig y penderfyniad i ymestyn pwerau polisi'r blaid Gymreig y tu hwnt i'r meysydd datganoledig ac i drosglwyddo'r grym dros enwebiadau seneddol o Lundain i Gaerdydd.
Eto i gyd fe fydd Llafur Cymru yn parhau i fod yn rhan o'r blaid Brydeinig a bydd dim rheidrwydd iddi gyhoeddi ei chyfrifon i'r Comisiwn Etholiadol.
Fe fydd 'na fwy o eglurdeb i'r berthynas os ydy'r newidiadau'n derbyn sêl bendith y Gynhadledd Lafur wythnos nesaf ond mae eironi yn perthyn i'r peth. Cawn gadarnhad o fodolaeth Llafur Cymru ar yr union adeg y mae holl fodolaeth Llafur Prydain mewn peryg.
Dyma'r cwestiwn felly - os ydy coeden yn y cwympo yn y goedwig a neb yn ei chlywed - ydy hi wedi gwneud sŵn?