Y Samariad Trugarog
- Cyhoeddwyd
Dw i ddim gan amlaf yn un am gonan ond roeddwn yn teimlo tipyn o hunan dosturi wrth yrru adref neithiwr a chanfod bod un o deiars y car yn fflat fel pancosen. Gyrru trwy Grangetown oeddwn i ar y pryd ac o fewn eiliadau i mi agor bŵt y car roedd dau foi wedi ymddangos i gynnig cymorth. O fewn munudau roedd y teiar wedi ei newid gyda'r ddau gyfaill yn gwrthod derbyn ceiniog am eu trafferth.
Rwy'n ymwybodol nad yw honna'n lot o stori ond mae gen i reswm dros ei hadrodd. Fel mae'n digwydd roedd un o'r ddau gyfaill yn ddu, y llall yn Asiaidd ac ill dau yn Fwslemiaid. Doedd dim byd yn anarferol am hynny. Mewn dinas aml ethnig fel Caerdydd mae pobl o bob lliw a llun yn cymysgu'n ddyddiol ac yn meddwl fawr ddim am y peth. Nid fel 'na mae bywydau pobl sy'n byw ym Mlaenau Gwent, dyweder, neu Ferthyr.
Mae hynny'n dod â ni at un o'r ffeithiau diddorol ynghylch refferendwm Ewrop. Yn ôl ymchwilwyr, dolen allanol, o'r ugain ardal gyda'r nifer lleiaf o fewnfudwyr o'r Undeb Ewropeaidd pleidleisiodd 15 dros adael. Pleidleisiodd deunaw o'r ugain ardal gyda'r nifer fwyaf o fewnfudwyr dros aros.
Hynny yw, mewn ardaloedd â nifer fawr o fewnfudwyr mae'n ymddangos bod yr agwedd tuag atynt yn gymharol gadarnhaol tra bod ofn yr 'arall' yn effeithio ar lefydd lle nad oes 'na lawer o dramorwyr.
Mae'n werth nodi wrth fynd heibio nad Merthyrs a Blaenau Gwents y byd yma sy'n bennaf gyfifol am y bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae methiant David Cameron i ddarbwyllo'r mwyafrif o gefnogwyr y Ceidwadwyr i bleidleisio yn ffactor llawer mwy pwysig.
Serch hynny, mae canlyniad y refferendwm yn achosi cur pen i Lafur pan mae'n dod at gyfyngiadau ar ymfudo. Mae rhan o'i phleidlais graidd, y dosbarth gwaith gwyn traddodiadol, am weld rheolaeth lem ar y niferoedd tra bod carfan arall o gefnogwyr Llafur, yr ifanc, y dosbarth canol rhyddfrydol a lleiafrifoedd ethnig yn credu i'r gwrthwyneb.
Oes modd llunio polisi felly fyddai'n lleddfu ofnau etholwyr Blaenau Gwent heb bechu etholwyr Caerdydd? Mae llawer y dibynnu ar yr ateb i'r cwestiwn hwnnw ond mae 'na beryg y gallasai Llafur bechu canran cynyddol bwysig o'r etholwyr mewn ymgais i leddfu ofnau grŵp sy'n lleihau fel canran o'r boblogaeth.