Annibyniaeth sydd yn galw...

  • Cyhoeddwyd

Prin hanner blwyddyn sy 'na ers ethol y pumed Cynulliad. Eto i gyd, dyma ni gyda dau aelod eisoes wedi dewis eistedd fel aelodau annibynnol gan droi eu cefnau ar y pleidiau wnaeth eu henwebu yn ôl ym mis Mai.

Nid Nathan Gill a Dafydd Ellis Thomas yw'r cyntaf i benderfynu troi at yr (A) yn y Cynulliad chwaith. Maent yn dilyn yn ôl traed Rod Richards, Ron Davies, John Marek, Peter Law ac efallai un neu ddau arall yr wyf wedi ei hanghofio.

Yn wir gellir dadlau bod 'mynd yn annibynnol' yn un o nodweddion y Cynulliad pan gymharir y lle hwn â San Steffan. Pethau prin iawn yw aelodau annibynnol ar ben arall yr M4 a hynny am ddau brif reswm.

Un ymhlith chwe chant a hanner yw'r aelod annibynol yn San Steffan, person hawdd ei anwybyddu sy'n cael trafferth dal llygaid y llefarydd. Mewn Cynulliad o drigain ar y llaw arall mae aelod annibynnol yn berson a thipyn o glowt yn enwedig yn ystod cyfnod o lywodraeth leiafrifol. Fe fydd yr aelod yn cael ei alw i siarad, yn saff o gael sedd ar bwyllgor ac yn bwrw pleidlais allweddol o bryd i gilydd.

Mae profiad Peter Law a John Marek hefyd yn awgrymu y gall aelod annibynnol amddiffyn ei sedd yn llwyddiannus. Prin yw'r rheiny dydd wedi llwyddo i wneud hynny yn San Steffan. Prin yw'r rheiny sydd wedi llwyddo gwneud hynny ym merw etholiad cyffredinol. Llwyddodd S.O Davies, Dick Taverne ac Eddie Milne i wneud hynny yn y 1970au prin yw'r rheiny sydd wedi llwyddo er hynny. Mewn geiriau eraill mae'r (A) yn San Steffan yn arwydd o Anobaith. Mae (A) yn y Bae yn fwy Addawol.

Beth sy'n debyg o ddod o Nathan Gill a Dafydd Elis Thomas felly?

Yn achos Nathan mae llawer yn dibynnu ar ffawd Ukip, plaid sy'n baglu o un argyfwng i'r nesaf ar hyn o bryd. Cyn belled ac mae Dafydd El yn y cwestiwn gallasai ei ddylanwad fod yn llawer llai na'r disgwyl. Mae rhai yn y blaid Lafur yn credu ei fod yn berson rhy anwadal i ddibynnu arno am fwyafrif a taw parhau i ddelio â Phlaid Cymru sydd orau.

Oes angen nodi pa mor eironig fyddai hi pe bai penderfyniad Dafydd i gefni ar ei blaid yn ei alltudio o drafodaethau rhwng y blaid honno a Llafur?