Y Gymraeg, wyt ti'n gêm?

  • Cyhoeddwyd
Diolch/Merci
Disgrifiad o’r llun,

Chwaraewyr Cymru yn dweud 'Diolch' a 'Merci' wrth y cefnogwyr ar ôl y golled yn erbyn Portiwgal

Dros yr haf daeth y Gymraeg i sylw'r byd yn dilyn campau bythgofiadwy y tîm pêl-droed cenedlaethol yn Euro 2016.

Dyma oedd y tro cyntaf i Gymru gyrraedd rowndiau terfynol cystadleuaeth ryngwladol ers Cwpan y Byd 1958. Ar y llaw arall, mae'r tîm rygbi cenedlaethol wedi cystadlu ym mhob Cwpan y Byd ers ei ddechrau yn 1987, gan gyrraedd y rownd gynderfynol yn 2011.

Ond mae'n anodd cofio'r Gymraeg yn cael yr un sylw â gafodd hi yn ystod y gystadleuaeth yn Ffrainc dros yr haf.

Ar ddydd Sadwrn, 12 Tachwedd, bydd Caerdydd dan ei sang gyda chefnogwyr y ddwy gamp yn heidio i'r brifddinas wrth i'r tîm rygbi herio'r Ariannin yn Stadiwm Principality, a thîm Chris Coleman fynd benben â Serbia yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Mae cymariaethau yn anochel. Felly oes gan Undeb Rygbi Cymru (URC) le i wella cyn belled â mae'r Gymraeg yn y cwestiwn?

Manon Edwards Ahir ydy cyfarwyddwr asiantaeth gyfathrebu ddwyieithog Mela Media, sydd wedi bod yn gweithio'n agos gyda'r Gymdeithas Bêl-droed (CBDC) ar eu defnydd o'r Gymraeg.

"Dyw e ddim yn gyfrinach bod CBDC wedi cydnabod pwysigrwydd y Gymraeg fel rhan bwysig o ddiwylliant ac hunaniaeth ein cenedl ers rhai blynyddoedd, dan arweiniad [pennaeth materion cyhoeddus CBDC] Ian Gwyn Hughes, [yr is-hyfforddwr] Osian Roberts ac eraill," meddai.

"Mae'r Gymraeg wedi ac yn cael ei defnyddio fel arf pwysig i gryfhau'r teimlad o undod ac angerdd ymhlith y tîm, y Gymdeithas a'r cefnogwyr ar hyd a lled y wlad - yn ystod yr Ewros roedd yn rhan annatod o'r ymgyrch 'Gyda'n gilydd yn gryfach'.

"Fe ddaethon nhw â ni i mewn i gryfhau eu cyfathrebu dwyieithog ar draws eu holl lwyfannau - cyfryngau cymdeithasol, rhaglenni gêm, gwefan - ac mae'r ffaith ein bod ni'n parhau i wneud hynny yn dangos eu hymroddiad gwirioneddol i uno'r genedl drwy'r ddefnyddio'r ddwy iaith."

Ffynhonnell y llun, Stu Forster
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ian Gwyn Hughes (chwith) wedi cael ei ganmol am ei waith yn hyrwyddo'r Gymraeg o fewn y Gymdeithas

Yn sgil llwyddiant Chris Coleman a'i chwaraewyr, daeth yr iaith i sylw rhai o gwmnïau mawr y byd hefyd.

"Adidas oedd y brand rhyngwladol mawr cyntaf i ddefnyddio'r Gymraeg yn ystod yr Ewros," eglurai Manon. "Fel prif noddwr CBDC fe gysyllton nhw â ni, drwy'r Gymdeithas, yn ystod gêm Rwsia a roedden ni'n fwy na hapus i'w helpu.

"Roedd eu negeseuon Cymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol yn cymaint o lwyddiant nes i rhai frandiau eraill fanteisio ar y cyfle i'w hefelychu gan ddefnyddio'r Gymraeg ar eu llwyfannau cymdeithasol hefyd fel rhan o'u hymgyrchoedd marchnata. Byddai'n braf meddwl mai nid one-off oedd hwn!"

'Gwersi i'w dysgu'

Mae URC wedi cael ei beirniadu'n hallt yn y gorffennol am ei ymdiriniaeth â'r Gymraeg - er i'r Undeb gyhoeddi polisi iaith newydd yn 2014.

Yn fwy diweddar, cafodd yr Undeb ei beirniadu gan Gomisiynydd y Gymraeg, dolen allanol, Meri Huws, am beidio nodi bod y gallu i siarad neu ddeall Cymraeg yn rhywbeth fyddai'n cael ei ystyried yn y broses o benodi swyddog y wasg newydd.

O weld apêl rhyngwladol y Gymraeg yn ystod y bencampwriaeth yn Ffrainc, oes gan gorff mor ddylanwadol ag URC le i ddysgu gan eu cyfoedion pêl-droed gyn belled ag y mae'r Gymraeg yn y cwestiwn?

"Dwi'n meddwl bod gan unrhyw gorff cenedlaethol wersi i'w dysgu gan CBDC a'u defnydd hynod effeithiol nhw o ddwyieithrwydd fel rhywbeth all uno a chynnwys pawb yn eu hymgyrch," meddai Manon.

"Yr hyn ddangosodd yr Ewros oedd nad oedd y Gymraeg yn perthyn i siaradwyr Cymraeg yn unig, ond y genedl gyfan ac y dylai pawb ymfalchïo ynddi fel rhan o'n diwylliant ni gyd fel Cymry."

Disgrifiad o’r llun,

Hysbyseb gan gwmni Budweiser yn ystod Euro 2016

Mae'r colofnydd pêl-droed Phil Stead yn credu y gallai'r Undeb Rygbi fod yn gwneud mwy o ran ei defnydd o'r Gymraeg.

"Dylen nhw fod yn fwy inclusive efo'r iaith," meddai. "Mae 'na gymaint o Gymry Cymraeg yn cefnogi rygbi ac maen nhw'n gwrthod y cyfle i ddefnyddio'r Gymraeg. Mae'n rhyfeddol.

"Mae pob mudiad arall yng Nghymru yn defnyddio dwyieithrwydd ac yn ei weld fel rhywbeth sy'n werth ei ystyried, ond mae'r [Undeb] yn styfnig ac yn anwybyddu hynna.

"Doedd neb yn arfer licio'r Gymdeithas Bêl-droed, roedd pobl yn tynnu arnyn nhw, 'y bobl mewn siwts' - nhw oedd gelyn y gêm yng Nghymru yn y 90au. I droi hynny rownd fel maen nhw - mae o wedi bod yn llwyddiant mawr."

Ffynhonnell y llun, Twitter
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd carfan Cymru ar gyfer y gêm yn erbyn Serbia ei thrydar yn y ddwy iaith...

Ffynhonnell y llun, Twitter
Disgrifiad o’r llun,

...ond yn uniaith Saesneg cafodd y tîm rygbi ei gyhoeddi ar Twitter

'Y Gymraeg yn ganolog'

Dywedodd yr Undeb fod eu defnydd o'r Gymraeg wedi "cynyddu'n sylweddol" yn ddiweddar.

"Rydym yn credu'n gryf bod rygbi Cymru ar gyfer pawb... ac mae'r iaith Gymraeg yn rhan bwysig o sut rydym ni'n rhyngweithio ac yn cysylltu gyda phawb sy'n ymwneud â rygbi yng Nghymru," meddai.

"Fel y gwelwch chi ar Twitter ac ein platfformau cyfryngau cymdeithasol ac ar-lein eraill, mae'r defnydd o'r Gymraeg tra'n cyfathrebu gyda'n cefnogwyr yn bwysig iawn i ni fel brand ac fel Undeb o glybiau.

"Rydym ni'n cyhoeddi deunydd Cymraeg unigryw yn gyson ar ein gwefan ac ar ein platfformau cyfryngau cymdeithasol ac mae ein defnydd o'r Gymraeg wedi cynyddu'n sylweddol yn dilyn apwyntiad ein swyddog cyfathrebu, sy'n medru'r Gymraeg.

"Mae'n marchnata ac ein brandio ni o amgylch y gemau rhyngwladol y mis hwn yn gwbl ddwyieithog gyda'r Gymraeg ar hysbysebion byrddau poster (billboards), teledu a radio, yn ogystal â'r brandio ar y cae.

"Mae'r defnydd o'r Gymraeg yn ganolog i sawl agwedd o'n busnes ni yn barod, o ddelio gyda chlybiau ar lawr gwlad ac ysgolion, i hyfforddwyr rhyngwladol, dyfarnwyr a chwaraewyr ar bob lefel o'r gêm, a chynnal cyfweliadau gyda'r wasg yn Gymraeg. Rydym yn bwriadu cynyddu ein defnydd o'r Gymraeg drwy waith yr Undeb."

Ffynhonnell y llun, Gwenno Davies/Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun,

Roedd dwyieithrwydd i weld yn amlwg ar y cae cyn y gêm yn erbyn Awstralia ddydd Sadwrn diwethaf