Gwlad y Llaeth a'r Mail
- Cyhoeddwyd
Os ydych chi'n teimlo braidd yn isel dyma air o gyngor i chi. Peidiwch, beth bynnag wnewch chi, brynu papur newydd heddiw - fe allai un o'r rheiny eich gyrru at ochr y dibyn!
Cymerwch y Mirror fel esiampl. Ar ôl stori tri thudalen ynghylch peldroedwyr ifanc yn cael eu cam-drin yn rhywiol cawn bedwar tudalen am lofruddiaeth erchyll Jo Cox a phedwar arall ynghylch Datganiad yr Hydref cyn symud ymlaen i lofruddiaethau ofnadwy tri dyn ifanc yn Llundain. Llond padell o newyddion drwg, digalon felly.
Oes 'na fymryn o oleuni yn un man, tybed? Wel, dim ond os ydych chi'n darllen y Daily Mail!
Ar dudalen blaen hwnnw heddiw ceir llun stoc o Phillip Hammond yn gwenu ynghyd a'r pennawd "So much for Mr Gloomy!" Mae 'na is-bennawd hefyd sy'n esbonio'r llawenydd "The elite said Brexit would spell apocalypse. Yesterday an upbeat Chancellor predicted growth for the next five years (pity about the terryfying debt)".
Nawr maen hawdd dychmygu'r ysgyrnygu dannedd yn ystafell newyddion y Mail wrth ychwanegu'r darn mewn cromfachau ond mae'n anodd gweld sut y gall y papur sgwario gweddill y pennawd a datganiad angladdol Phillip Hammond na phroffwydoliaethau tywyll yr OBR.
Yn ôl economegwr y Llywodraeth fe fydd Brecsit yn costio bron i drigain biliwn o bunnau rhwng nawr a 2020 ond naw wfft i hynny mae'n debyg. Wedi'r cyfan mae "one senior minister" wedi dweud wrth y Mail bod y ffigyrau yn "ridiculous and wrong". Dydw i ddim yn gwybod pwy yw'r 'senior minister' yna ond rwy'n fodlon mentro ei fod e'n un o dri!
Mae 'na rywbeth crefyddol bron ynghylch parodrwydd y Brecsitwyr mwyaf pybyr i wfftio unrhyw arbenigwr sy'n anghytuno a nhw. Mae'n debyg eich bod yn cofio honiad Michael Gove fod pobl wedi cael digon o arbenigwyr ond yn yr achos hwn mae'r 'senior minister' yn dod yn agos iawn at racso ei ganghellor ei hun.
Mae'n bosib bod y cadoediad yn rhengoedd y Llywodraeth yn araf ddatgymalu. Efallai bod hynny'n anorfod wrth i'r Prif Weinidog orfod penderfynu beth mae Brecsit yn golygu mewn gwirionedd. Beth bynnag a ddaw, gallwn ddibynnu ar y Daily Mail i'n goleuo - neu efallai ddim.