Gwynfor a'r Goruchaf Lys

  • Cyhoeddwyd

Un o'r gemau yr oedd newyddiadurwyr yn arfer eu chwarae yng nghynadleddau Plaid Cymru oedd dyfalu ym mha ganrif y byddai Gwynfor Evans yn cychwyn ei araith. Ai Macsen, Hywel Dda, Llywelyn neu'r Llyfrau Gleision fyddai'r man cychwyn y tro hwn? Un peth oedd yn sicr fe fyddai 'na wers hanes bach cyn i Gwynfor gyrraedd ei neges wleidyddol!

Roedd 'na un darn digyfnewid o'r neges honno. Dydw i ddim yn cofio gwrando ar un araith gan Gwynfor nad oedd yn cynnwys paragraff neu ddau yn gwahaniaethu rhwng cenedl a gwladwriaeth ac yn mynnu nad cenedl yw Prydain ond gwladwriaeth. Roedd y gredo honno yn greiddiol i'w weledigaeth wleidyddol.

Mae'n debyg y byddai Gwynfor yn gwenu yn nefoedd yr Annibynwyr o ddarllen y dystiolaeth, dolen allanol y mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno i'r Goruchaf Lys ar gyfer y gwrandawiad hanesyddol ynghylch tanio Erthygl 50. Efallai'n wir y byddai'n gweld rhywbeth cyfarwydd iawn ynghylch y paragraff hwn.

Whatever its historical origins, the United Kingdom is best seen now as a voluntary association of nations which share and redistribute resources and risks between us to our mutual benefit and to advance our common interests.

Nid hwn yw'r tro cyntaf i'r paragraff hwnnw ymddangos. Fe'i gwelwyd yn gyntaf yn y dystiolaeth a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru i un o bwyllgorau Dŷ'r Arglwyddi. Yn y bôn mae'n aralleiriad o honiad Gwynfor taw casgliad o genhedloedd ac nid cenedl yw'r Deyrnas Unedig.

Nawr gwahoddir i'n llys uchaf farnu a ydy'r honiad yn gywir ai peidio. Does dim rhaid iddyn nhw wneud hynny er mwyn setlo'r achos ond mae'n ddiddorol bod y cwestiwn hyd yn oed yn cael ei ofyn, a bod syniad oedd ar un adeg yn ymylol bellach yn greiddiol i ddadleuon cyfansoddiadol.