A'r enillydd yw...

  • Cyhoeddwyd

Os oedd un peth yn nodweddu 2016 yn y byd datblygedig dicter a dirmyg tuag at y 'dosbarth gwleidyddol' yw hwnnw. Dyna oedd wrth wraidd pleidlais Brexit, ethol Donald Trump a thwf cyson y dde eithafol ar draws cyfandir Ewrop.

Mae'r union reswm dros y dicter yn amrywio o wlad i wlad. Mae cysgod y sgandal dreuliau yn dal i effeithio ar ein gwleidyddiaeth ni, er enghraifft, tra bod methiant Ewrop i ddelio â ffoaduriaid yn bwydo'r tanau yn yr Eidal.

Mae 'na ffactorau eraill sy'n gyffredin i bob gwlad, yn bennaf y ffaith bod cyflogau real wedi aros yn eu hunfan neu wedi gostwng dros y ddegawd ddiwethaf. Yn achos yr Unol Daleithiau mae'r sefyllfa hyd yn oed yn waeth. Dyw cyflogau real yno ddim wedi cynyddu ers 1964 ac mae'r hynny o system les sydd gan y wlad wedi bod dan warchae am ddegawdau.

Yn draddodiadol, fe fyddai etholwyr dan bwysau economaidd yn troi at bleidiau'r chwith am atebion. Y rheiny, wedi'r cyfan, sydd wedi eu gwreiddio yn nelfrydau cyfartaledd a chyfiawnder economaidd. Y tro hwn, gydag ambell eithriad megis gwlad Groeg, pleidiau'r dde sydd wedi gallu manteisio trwy arddel ieithwedd a symbolau'r chwith.

Nid cyd-ddigwyddiad oedd y ffaith bod y bws Brexit yna wedi ei baentio'n goch ac mai neges ynghylch y Gwasanaeth Iechyd oedd ar ei ochr.

Mae 'na arf arall gan y dde hefyd - yr hyn y gwnaeth yr awdur Americanaidd Thomas Frank disgrifio fel enllib y 'latte libel' yn ei lyfr deifiol What's the Matter with Kansas. Yn y llyfr hwnnw, sy'n ddeg mlynedd oed bellach, mae Frank yn disgrifio tacteg y dde o bortreadu'r chwith fel carfan ddinesig elitaidd sydd â gwerthoedd croes i rhai'r bobl go iawn. 'Guardian readers', os mynnwch chi, 'latte sippers' yn llyfr Frank neu i ddefnyddio hoff air y Daily Mail - y remoaners.

Dyw'r chwith ddim yn helpu ei hun wrth gwrs trwy ddewis cymaint o gyfreithwyr, athrawon ac, ie, newyddiadurwyr fel ymgeiswyr a doedd y cinio swanc yna yng Ngwesty Dewi Sant i godi arian i blaid lafur y Rhondda ddim yn help!

Yng nghanol hyn oll dewisodd nifer o'n gwleidyddion mynychu "Gwobrau Gwleidyddol Cymru" neithiwr, noson joli iawn lle mae newyddiadurwyr a gwleidyddion yn curo cefnau'i gilydd.

Yn y gorffennol mae llawer o dynnu coes wedi bod ynghylch y ffaith bod pob un o'r pleidiau yn tueddu ennill gong bob blwyddyn yn y gwobrau hyn. Yn wir roedd 'na amheuon bod y categori 'cynghorydd y flwyddyn' wedi ei greu'n unswydd er mwyn rhoi gwobr i'r Democratiaid Rhyddfrydol.

Yn rhyfedd iawn neithiwr, yn sgil eu blwyddyn ryfeddol, methwyd gwobrwyo'r un aelod o Ukip.

Dyw hynny ddim yn debyg o boeni'r blaid. Wedi'r cyfan hi yw'r gwir enillydd o ddigwyddiad sydd, mae'n siŵr, yn ymddangos yn anghymwys ac allan o gysylltiad i bobl sy'n crafu byw.