Gordon Anglesea: 'Niwmonia a haint' cyn ei farwolaeth
- Cyhoeddwyd
Bu farw cyn swyddog heddlu a gafwyd yn euog o droseddau rhyw yn erbyn plant ar ôl cael ei gludo i'r ysbyty gyda niwmonia a haint ar ei ysgyfaint, meddai ei deulu.
Daeth cadarnhad bod Gordon Anglesea, oedd yn 79 ac o Hen Golwyn, wedi marw yn yr ysbyty ddydd Iau.
Roedd yn y carchar ar ôl cael ei ddedfrydu i 12 mlynedd dan glo am gam-drin plant yn y 1980au.
Mewn datganiad dywedodd ei deulu bod Anglesea wedi ei gludo i'r ysbyty yr wythnos diwethaf.
Ychwanegodd y datganiad: "Fe wnaeth ei gyflwr waethygu ac aeth cais i'r teulu yn gynnar yr wythnos hon i fynd i'r ysbyty."
Ddydd Iau, dywedodd llefarydd ar ran y Gwasanaeth Carchardai: "Bu farw carcharor HMP Rye Hill, Gordon Anglesea, yn yr ysbyty heddiw am tua 09:30.
"Fel gyda phob marwolaeth yn y carchar, bydd yr Ombwdsmon Carchardai a Phrawf annibynnol yn ymchwilio."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Rhagfyr 2016