Y cyn heddwas a'r troseddwr rhyw Gordon Anglesea wedi marw
- Cyhoeddwyd
Mae cyn swyddog gyda Heddlu Gogledd Cymru a gafwyd yn euog o droseddau rhyw yn erbyn plant wedi marw.
Cafodd Anglesea, oedd yn 79 ac o Hen Golwyn, ei ddedfrydu i 12 mlynedd yn y carchar ym mis Tachwedd.
Roedd wedi camdrin dau fachgen rhwng 1982 ac 1987.
Dywedodd llefarydd ar ran y Gwasanaeth Carchardai: "Bu farw carcharor HMP Rye Hill, Gordon Anglesea yn yr ysbyty heddiw am tua 09:30.
"Fel gyda phob marwolaeth yn y carchar, bydd yr Ombwdsmon Carchardai a Phrofiannaeth annibynnol yn ymchwilio."
Cafodd ei farwolaeth ei gadarnhau gan gyfreithiwr Anglesea, Jonathan Wall, o gwmni Burton Copeland.
Cafodd ei arestio fel rhan o Ymgyrch Pallial i honiadau hanesyddol o gam-drin plant.
Yn dilyn achos llys, cafwyd yn euog o ymosod yn anweddus ar ddau fachgen yn y 1980au.
Gordon Anglesea: Llinell Amser
1967 - Mae Anglesea yn dechrau ar ei yrfa fel heddwas yn Sir Caer, cyn ymddiswyddo yn dilyn tor-priodas. Mae'n ymuno gyda'r heddlu yn Sir y Fflint yn ddiweddarach
1976 - Caiff ei ddyrchafu i fod yn arolygydd yn Wrecsam, cyn cael cyfrifoldeb am ardal Bromfield yn ddiweddarach. Mae'r ardal yn cynnwys cartref plant Bryn Estyn
1978 - Mae'n sefydlu canolfan bresenoldeb i bobl ifanc ar ran y Swyddfa Gartref yn Wrecsam
1988 - Caiff ei ddyrchafu i fod yn uwcharolygydd yr heddlu ym Mae Colwyn
1991 - Mae'n ymddeol o'r heddlu wedi 34 blynedd o wasanaeth. Mae papur newydd yr Independent On Sunday yn cyhoeddi erthygl am ei gysylltiadau gyda chartref Bryn Estyn. Caiff straeon tebyg eu cyhoeddi yn yr Observer, Private Eye ac mewn rhaglen deledu gan HTV Wales
1994 - Mae'n dwyn achos enllib yn erbyn pedwar cwmni cyhoeddi a darlledu. Mae'n ennill yr achos ac yn derbyn £375,000 am y niwed i'w enw da
1997 - Mae Anglesea yn ateb cwestiynau am gamdrin rhyw honedig o flaen tribiwnlys camdriniaeth Gogledd Cymru
2000 - Dywed Adroddiad Waterhouse nad oedd honiadau am Anglesea "wedi eu profi"
2014 - Cafodd ei arestio a'i ryddhau ar fechnïaeth gan swyddogion o Ymgyrch Pallial - ymgyrch oedd yn ymchwilio i honiadau o gamdrin plant mewn cartrefi gofal yn y gogledd
2015 - Caiff ei gyhuddo o droseddau rhyw hanesyddol
2016 - Rheithgor yn ei gael yn euog o bedwar trosedd yn erbyn dau fachgen ac mae'n cael ei garcharu am 12 mlynedd.