Y gwir sy'n brifo
- Cyhoeddwyd
Mae hi'n gallu bod yn anodd rhoi beirniadaeth ar brydiau, yn ogystal â'i derbyn, yn enwedig yn y Gymraeg.
Un sy'n gyfarwydd â hyn yw Bethan Mair, sydd wedi bod yn adolygu llyfrau ers yr 1980au.
Bu Bethan yn rhannu ei phrofiadau gyda Cymru Fyw ynglŷn â'r her o adolygu yn Gymraeg:
'Fel geni babi'
Rydw i wedi bod yn adolygu llyfrau ers bron i 30 mlynedd bellach, ond rydw i hefyd wedi cyhoeddi llyfrau, ac wedi bod yn awdur a golygydd ar ambell un.
Yn hynny o beth felly, rydw i wedi bod ar ddau ben y rhaff, fel beirniad ac fel un sy'n derbyn beirniadaeth. Dwn i ddim yn iawn pa un sydd anoddaf.
Wrth feirniadu yng Nghymru, rhaid i chi fod yn ofalus nad ydych chi'n digio pobl, am y byddwch chi'n siŵr o weld yr awdur, neu'r cyhoeddwr, neu ei fodryb neu ei gi, yn yr Eisteddfod flwyddyn nesaf - a dyw awduron sy'n cael eu siomi byth yn anghofio, credwch fi.
Ond mae hi'n anodd hefyd pan fyddwch chi'n derbyn adolygiad gwael ar eich llyfr. Mae ysgrifennu a chyhoeddi llyfr ychydig fel geni babi, ond bod y cyfnod beichiogrwydd yn aml lawer iawn yn fwy!
Rydych chi wedi rhoi popeth i mewn i'r brawddegau a'r paragraffau, rydych chi a'r cyhoeddwr wedi ymlafnio dros y clawr a'r broliant, ac rydych chi wedi bod drwy broses o ddrafftio ac ail-ddrafftio - a thrydydd a phedwerydd- ddrafftio weithiau!
Ac ar ôl y llafur maith hwnnw i gyd, mae rhyw ben bach yn mynd ar Prynhawn Da a dweud: "Wel, tri allan o ddeg yr ydw i'n ei roi i'r nofel hon." Mae'n syndod nad oes mwy o contract killers ar waith yng Ngwalia, a dweud y gwir.
Ceisio bod yn garedig
Sut felly y mae bod yn adolygydd da? Yn gyntaf, rhaid derbyn nad ydych chi byth yn mynd i blesio pawb. Os ydych chi'n rhy hael eich canmoliaeth, bydd rhywun yn siŵr o ddweud eu bod nhw'n meddwl mai llyfr addas ar gyfer y tŷ bach, a dim byd arall, ydyw. Os ydych chi'n rhy llym, wel, gweler uchod am y modrybedd a'r contract killers…
Ac eto, rhaid ceisio dweud y gwir fel y gwelwch chi ef, er gwell neu er gwaeth. Rhaid ceisio bod yn garedig bob amser - hyd yn oed os yw'r llyfr yn rybish. Oni bai ei fod yn rwtsh llwyr, ac yna rhaid troi at y cyngor gorau oll, sef 'os nad oes gen ti rywbeth da i'w ddweud, paid â dweud dim'.
Un waith yn unig y mae hyn wedi digwydd i mi, ond rydw i wedi rhoi llyfr yn ei ôl ar ôl i rywun ofyn i mi'i adolygu, am nad oedd gen i ddim oll calonogol i'w ddweud amdano. Roedd y llyfr yn rwtsh llwyr, ac nid oedd yn haeddu cael ei adolygu. Weithiau gall mudandod floeddio'n uwch na sgrech.
Cofiwch eich bod chi'n cael eich talu i fynegi eich barn. Dyw'r tâl ddim yn enfawr - yn wir, weithiau dyw e'n ddim mwy na chopi am ddim o'r llyfr - ond mae rhywun wedi rhoi job o waith i chi, felly ewch ati'n gydwybodol. Os yw eich barn chi'n werth talu amdani, mynegwch hi'n hyderus, yn ddi-flewyn-ar-dafod, ond hefyd yn glên, gan gofio mai pobl fel chi fu wrthi'n ymlafnio ar y llyfr sydd o dan y lach gennych.
Ac beth os mai chi yw'r awdur sydd wedi dioddef llafn finiog yr adolygydd cas? Wel, gras sydd ei angen, a chofio, fel yr arferai fy mam-gu ddweud, y bydd rhyw ddafad arall yn torri'i choes wythnos nesaf.
Barn un person yw'r adolygiad, a rhaid i chi gael ffydd yn eich gwaith. Os yw'r adolygydd yn dweud y gwir, er mor anodd yw derbyn hynny, dysgwch ohono.