Blwyddyn newydd, pynciau cyfarwydd

  • Cyhoeddwyd
Carl Roberts

Mae'r gohebydd Carl Roberts wedi camu i esgidiau Vaughan Roderick yr wythnos hon, wrth i wleidyddion ddychwelyd i Fae Caerdydd a San Steffan wedi'r Nadolig.

Pwy sy'n edrych ymlaen at fynd yn ôl i'r gwaith ar ôl y gwyliau Nadolig? Dwi ddim, ac roedd dychwelyd i'r swyddfa ar ôl gwledda ar ddiet o siocled i frecwast, caws i ginio, a sieri i swper am bythefnos yn sioc i'r system.

Tydi Vaughan Roderick ddim wedi profi'r fath sioc eto, mae o'n dal i fod ar ei wyliau - a dyna pam fy mod i'n ysgrifennu blog wythnos yma.

Yn wahanol i Vaughan, mae'r gwleidyddion ym Mae Caerdydd yn ôl yn y gwaith, ac yn siambr y Senedd am y tro cyntaf yn 2017 ar gyfer sesiwn holi'r Prif Weinidog.

Blwyddyn newydd falle, ond dyw'r pynciau trafod ddim wedi newid, ac ateb cwestiynau ar Brexit a dyfodol safle dur cwmni TATA ym Mhort Talbot wnaeth Carwyn Jones.

Ddim yn gwrando ar y bobl

Y feirniadaeth oesol o wleidyddion ydy nad ydyn nhw yn gwrando ar y bobl.

Dros y penwythnos mynegodd llefarydd economi Plaid Cymru, Adam Price ei farn ar gynnig gan gwmni TATA i newid telerau pensiwn gweithwyr yn safle dur Port Talbot.

Yn ôl Adam Price mae'r cynnig yn un "annerbyniol".

O fewn oriau daeth neges gan yr undebau na ddylai gwleidyddion ymyrryd, ond fe gafodd y rhybudd ei anwybyddu'n llwyr gan y gwleidyddion yn y siambr.

Roedd arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew RT Davies am wybod barn Carwyn Jones ar y mater. Yn benodol, ei deimladau ar gynnig gan TATA fyddai'n arwain at bensiwn gyda thelerau llai ffafriol na'r un sydd yn ei le yn barod.

Yn ôl Carwyn Jones doedd fawr o ddewis gan y gweithwyr ond derbyn y cynnig er mwyn sicrhau bod y gwaith o gynhyrchu dur yn parhau ym Mhort Talbot.

Ddyddiau yn unig ar ôl iddo ddychwelyd o Norwy (mae manylion yr ymweliad fan hyn diolch i fy nghydweithiwr Daniel Davies) - roedd arweinydd grŵp UKIP, Neil Hamilton yn annog y Prif Weinidog i dreulio rhagor o amser dramor, gan ddechrau gydag ymweliad i Dde Corea.

Pam De Corea? Wel, mae'r wlad wedi llwyddo i sicrhau cytundeb masnach rydd gyda'r Undeb Ewropeaidd.

Ar ôl cerydd gan yr undebau llafur, fe benderfynodd Adam Price ganolbwyntio ar y pynciau bara menyn - bara, menyn ac unrhyw gynnyrch Cymreig arall.

Mae Mr Price yn poeni y bydd hi'n anoddach i werthu cynnyrch o Gymru dramor yn sgil Brexit, ac y dylid ystyried datblygu brand 'Cynnyrch o Gymru'.

Jac a Wil San Steffan

Cyfeiriodd at "Corbyn a May" yn ei gwestiwn. Roedd o'n sôn wrth gwrs am y Prif Weinidog Theresa May ac arweinydd Llafur, Jeremy Corbyn.

Yn ôl y Ceidwadwr Nick Ramsay roedd y disgrifiad o "Corbyn a May" yn creu delwedd o ddeuawd gwerin o'r 60au. Corbyn a May = Jac a Wil San Steffan?

Ar ôl y gymhariaeth dywedodd Nick Ramsay ei fod am ganolbwyntio ar drafod bwyd a diod. Pwnc priodol iawn i'r gwr sy'n gyn-gadeirydd ar Grŵp Trawsbleidiol ar Gwrw a Thafarndai, dolen allanol.

Bydd Vaughan yn ôl mewn pythefnos - mae o'n amlwg yn ceisio gohirio dod yn ôl i'r gwaith ar ôl y Nadolig.

Mae'n debyg bod yr Arglwydd Nick Bourne yn ceisio gwneud hynny hefyd. Bu bron i'r Arglwydd Bourne fethu pleidlais ar Fesur Cymru.

Pan ddaeth ei dro i siarad yn y ddadl doedd dim son am yr Arglwydd Bourne. Ar ôl saib o ryw bum munud roedd o wedi cyrraedd Ty'r Arglwyddi yn ymddiheuro am fod yn hwyr.

Dwi'n gwybod yn union sut mae'n teimlo.