Llanast
- Cyhoeddwyd
Roeddwn i'n pendroni haf diwethaf p'un ai oedd hi'n bosib i'r blaid Lafur fynd i waeth twll na'r un yr oedd hi ynddi bryd hynny. A oedd modd i bethau dirywio'n bellach oedd y cwestiwn. Go brin oedd yr ateb gen i ar y pryd.
O chwi o ychydig ffydd! Dal i ddatgymalu mae'r blaid gyda'r blaid seneddol bron prin yn haeddu'r disgrifiad hwnnw erbyn hyn. Diflannodd disgyblaeth ac mae syllu ar y wynebau ar y meinciau cefn yn ystod cwestiynau'r Prif weinidog yn adrodd cyfrolau am y diffyg parch tuag at arweinyddiaeth y blaid.
Ond am unwaith nid ar ysgwyddau Jeremy Corbyn y mae'r bai pennaf am y sefyllfa. Go brin y byddai hyd yn oed Blair yn ei holl ogoniant yn gallu plethu unrhyw fath o naratif synhwyrol allan o'r amryw leisiau a safbwyntiau sy'n ceisio dygymod a thrallod y refferendwm.
Agorwyd hollt o fewn y glymblaid Llafur rhwng y cefnogwyr dosbarth gwaith traddodiadol a'r chwith ddinesig a dosbarth canol. Mae'n anodd gweld sut mae pontio'r adwy honno.
Cymaint yw'r penbleth nes i ymgeisydd y blaid ar gyfer swydd Maer y West Midlands benderfynu taw cenedlaetholdeb Seisnig yw'r neges fwyaf effeithiol. "Take back Control of the West Midlands, dolen allanol" yw'r neges ar daflenni sy'n for o faneri San Siôr. Mewn bywyd arall fe lygadodd Siôn Simon ambell i sedd seneddol yng Nghymru. Cewch chi benderfynu p'un ai Sioni Bob Ochr neu Dic Siôn Dafydd sy'n ei ddisgrifio orau.
Yn y cyfamser mae fy nghyfaill Owen Smith yn ceisio adennill ei berthnasoldeb trwy hoelio'i liwiau i fast y rheiny fydd yn gwrthwynebu Erthygl 50.
Ceisiwch chi feddwl am ffordd i bontio rhwng cefnogwyr y ddau safbwynt yna a'r holl wleidyddion sydd a'u barn yn gorwedd rhywle rhwng y ddwy eithaf. Does dim modd.
Yng nghanol hyn oll mae Llafur yn wynebu dau isetholiad anodd, un yn Copeland yn yr hen ogledd a'r llall yn Stoke. Mae adrodd cyfrolau am gyflwr y blaid bod ambell i aelod blaenllaw yn gobeithio'n breifat y bydd Llafur yn colli'r ddau yn y gobaith y byddai hynny'n newid rhywbeth, unrhyw beth.
Os oeddech chi'n meddwl bod 2016 yn flwyddyn wleidyddol ryfedd, croeso i 2017!