Brexit: 'Angen i ffermwyr chwilio am gyfleoedd newydd'
- Cyhoeddwyd
Mewn cyfarfod yn Llanelwedd roedd yna anogaeth gan Ysgrifennydd Cymru Alun Cairns i ffermwyr "edrych am farchnadoedd a chyfleoedd newydd" yn sgil Brexit.
Dywedodd y byddai llywodraeth y DU yn parhau i geisio cynnal cytundeb masnach rydd gyda'r Undeb Ewropeaidd yn yr un ffordd â Chanada a Mecsico.
Yn ystod y cyfarfod dywedodd John Davies, dirprwy lywydd NFU Cymru, ei fod yn hynod o siomedig clywed bod y DU yn bwriadu gadael y farchnad sengl.
Roedd y cyfarfod yn Llanelwedd yn rhan o gyfres o ddigwyddiadau sydd wedi'u trefnu gyda chynrychiolwyr o'r economi Gymreig i drafod dyfodol Prydain y tu fas i'r Undeb Ewropeaidd.
Yn y cyfamser mae Llywodraeth Prydain wedi cyhoeddi'r mesur a fydd yn galluogi San Steffan i danio erthygl pum deg ar gyfer gadael.
Bydd Aelodau Seneddol yn cael y cyfle i drafod y mesur yn Nhŷ'r Cyffredin wythnos nesaf. Mae disgwyl i Geraint Davies, Aelod Seneddol Abertawe, ymuno ag arweinydd y Blaid Werdd i bleidleisio yn erbyn Brexit.
Gwelliannau
Yn y cyfamser mae Plaid Cymru yn ceisio gorfodi rhai o ffigyrau amlycaf yr ymgyrch i adael yr UE i gefnogi nifer o welliannau y byddan nhw'n eu cynnig yn San Steffan.
Os fydd y Llefarydd yn dewis y gwelliannau - sy'n cyfeirio at addewidion yr ymgyrch Leave fel parhau i fasnachu'n rhydd gydag Ewrop (addewid Boris Johnson), £350m yr wythnos i'r Gwasanaeth Iechyd (addewid 'Vote Leave') a thorri'r Dreth Ar Werth ar danwydd (addewid Michael Gove) - fe fydd yn gorfodi Mr Johnson a Mr Gove naill ai i bleidleisio yn erbyn eu haddewidion neu i gefnogi gwelliannau Plaid Cymru.
Dywedodd Hywel Williams AS, arweinydd y Blaid yn y senedd: "Dydyn ni ddim yn barod i adael i'r bobl yma anwybyddu eu bod wedi addo gwario £350m yn ychwanegol ar y GIG bob wythnos... roedd hwnna'n addewid clir gafodd ei wneud ar draws y wlad.
"Fe wnaeth pobl 'Vote Leave' gamarwain y cyhoedd yn fwriadol am beth y fyddai pleidlais i adael yn ei olygu, a rhaid iddyn nhw beidio torri'r addewidion.
"Mae'n briodol bod y bobl wnaeth addewidion o'r fath, gan gynnwys uwch weinidogion y llywodraeth, gael eu cadw i gyfrif am yr hyn ddywedon nhw yn yr ymgyrch."